‘Roedd trwch o ffyddloniaid PIMS ar goll heno! ‘Roedd PIMSwyr Ysgol Gyfun Glantaf, mwy neu lai i gyd yn rhan o gyflwyniad yr ysgol o Les Misérables. Ond, bu’r 11 a fedrodd ddod heno yn llawn bwrlwm a thrafod. Thema’r mis oedd ‘6’; ein man cychwyn oedd Jelly Babies, a chwestiwn: a oedd rhywun yn cofio o fore ddoe enwau rhai o’r Jelly Babies. Daeth sawl awgrym diddorol, ac ambell un yn gywir! Enw’r jelly baby coch yw 'Brilliant'. Awgrymodd Owain fod rhai pobl yn dweud fod credu yn Iesu Grist yn BORING, a bod dod i’r capel yn gyson yn BORING. Ond, mae rhai pobl wedyn sydd yn gwybod fod credu yn Iesu Grist yn BRILLIANT; a bod cymdeithas pobl ffydd yn BRILLIANT. Yr unig ffordd i argyhoeddi pobl fod credu yng Nghrist a’i wasanaethu’n BRILLIANT, yw sicrhau fod eraill yn gweld y gwahaniaeth mae’r credu hwnnw’n gwneud yn ein byw a’n bod.
Gan droi i Beibl.net bu’r PIMSwyr yn chwilio am Rufeiniaid 12:2. Harri oedd y cyntaf heno. …rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Wedi hollti’r cwmni yn ddau grŵp, aethpwyd ati i drafod goblygiadau’r anogaeth Paul.
Wedyn, bu’n rhaid neidio i ddyfnder yr Hen Destament. Numeri 35:11! Sam ac Ifan a orfu y tro hwn. …yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa…(BCN). O ddarllen ymlaen i adnod 13, gwelir am 6 dinas noddfa sydd. Trafodwyd yn fras ystyr y gair ‘Noddfa’; a sylwyd mai …chwe thref lloches… sydd yn Beibl.net. Datblygwyd y drafodaeth gan ofyn pwy heddiw sydd angen ‘Noddfa’ a ‘Lloches’. Mewn fawr o dro, daeth ffoaduriaid byd yn destun i'r drafodaeth yn ein plith. Ffurfiwyd tri grŵp, a phob grŵp yn ceisio ymateb, yn eu tro, i ddelwedd benodol. Dyma’r delweddau, a’r ymateb:
Trawyd Lleucu, Elin a Harri gan y camerâu. Rhaid cofnodi a chyhoeddi’r tristwch hyn wrth gwrs, ond nid oes cymorth uniongyrchol yn cael ei gynnig i’r ddau fachgen yn ei gofid. Bu Oliver, Ifan, Efa a Mali yn pendroni a’i braich yn gwarchod oedd braich y swyddog hwn, neu fraich yn atal. Bu Gruff, Sam, Cadi ac Amy y trafod y ddynes yn y cefndir. Ai mam, neu chwaer y plant hyn yw hon tybed? Mae hi’n arwyddo ble yr hoffai cael mynd: yno mae diogelwch a chymorth.
Bu Gruff, Sam, Cadi ac Amy yn trafod mor barod ydym i gwyno am hyn, llall ac arall; a bod y llun hwn yn gosod ein cwynion yn eu iawn le. Cyfeiriodd Oliver, Ifan, Efa a Mali at yr holl sôn a fu am bobl yn boddi, a bod y llun hwn wedi amlygu menter a desperation y bobl hyn. Wrth weld mor llawn y cwch, daeth yn amlwg i Lleucu, Elin a Harri cynddrwg oedd sefyllfa’r bobl hyn adref, iddynt fentro’r fath daith o dan y fath amgylchiadau.
‘Roedd Harri, Elin a Lleucu’n gytûn fod y plant hyn yn hapus, er waethaf gofid ddoe, a sefyllfa heddiw - ‘does dim yn gallu diffodd gobaith pobl. Sylwodd Mali, Efa, Oliver ac Ifan fod y camerâu bellach yn wynebu’r plant. 'Roedd y camerâu yn llun cyntaf y tu ôl iddynt. Bu Amy, Cadi, Gruff a Sam yn trafod mor hapus oedd y plant hyn nawr - hanner ffordd - rhwng gofid ddoe a gobaith yfory.
Noson fuddiol, llawn her a gwaith. Mawr ein diolch, fel eglwys, am y bobl ifanc hyn.