Blwyddyn y Beibl Byw (3)
Cynnig ‘Blwyddyn y Beibl Byw’ gyfle i drin a thrafod cwestiynau ynglŷn â: natur y traddodiad sydd yn y Beibl; dulliau darllen, trafod a dehongli’r Beibl; safle ac awdurdod y Beibl; a sut i gymhwyso neges y Beibl i Gymru heddiw.
Her ASTUDIAETH. Amod profi gorau’r Beibl yw treiddio iddo’n ddyfnach. Byddwn agored i ddarllen y Beibl gan ddefnyddio'r ystod o wybodaeth sydd ar gael. Ni ddylid ceisio ei warchod rhag unrhyw ganlyniad anffafriol a all ddod o’r ysgolheictod hwnnw. Os gwneud hynny, cyll ein darllen a’n dadansoddi bob pwrpas. Nid yw’r Beibl, o reidrwydd, yn adroddiad llythrennol wir, heb unrhyw arlliw o gamgymeriad nac yn awdurdod ar bob math o wybodaethau. Dywed Iesu wrth ddyfynnu Salm 110 Dafydd ei hun a ddywedodd ... (Marc 12:36a). Cred ysgolheigion nad Dafydd oedd awdur y Salm. Derbyniodd Iesu draddodiadau ei oes. Wrth ddarllen y Beibl rhaid wrth feddwl agored ac ymchwilgar. Her yw ymateb i’r haeriad: os nas gellir dibynnu arno ymhob peth, sut gellir dibynnu arno mewn unrhyw beth? Cofier! Erys y Beibl yn Air Duw; bu Duw ar hyd yr oesau mewn cysylltiad â’i bobl, ac yn datguddio’i hun iddynt. Fe’u hysbrydolodd i ffurfio eu traddodiad crefyddol, a’u harwain i argyhoeddiad ffydd. Trwy’r llyfr hwn, llefara Duw.
Her AWDURDOD. Pa fath o awdurdod a berthyn i’r Beibl? Perthyn ei awdurdod nid i’w natur na’i gymeriad, ond i’r digwyddiadau sydd y tu ôl iddo. Y digwyddiadau hyn sy’n allweddol bwysig i’r Cristion; ynddynt mae swm a sylwedd ein ffydd. Nid oes lle i ddelfrydu’r Beibl am ei werth ei hun. Nid y Beibl yw’r datguddiad; yn hytrach, y digwyddiadau sydd du ôl i’r Beibl - gweithredodd Duw yn yr Exodus ... yn Iesu Grist ... yn yr Eglwys Fore. Nid disgrifio’r digwyddiadau fel y bu iddynt ddigwydd yw amcan y Beibl. Gall awduron y Beibl fod yn annelwig; ar adegau maent yn gwbl anghywir yn hanesyddol. Dibynna awdurdod y Beibl ar ei gywirdeb hanesyddol, ond nid ar groniclo ffeithiau hanesyddol yn gywir y dibynna ei awdurdod. Dau osodiad sy’n ymddangos yn gwbl groes i’w gilydd? Dyna’r her! Tra bod y Beibl yn seiliedig ar ddigwyddiadau, nid mewn cofnodi’n fanwl hanes y digwyddiadau hynny y mae ei brif ddiddordeb, ond yn hytrach mewn cyflwyno’r iachawdwriaeth a amlygir yn y digwyddiadau. Y dehongliad - yr argyhoeddiad crefyddol - sy’n bwysig yng ngolwg bob un o'r awduron.
Her ADDASRWYDD. Cefndir Hebreig sydd i’r Hen Destament; iaith, syniadau a dulliau Hebreig a ddefnyddir i fynegi ac i gyflwyno digwyddiadau hanes. O sefyllfa wleidyddol yr Ymerodraeth Rufeinig y tyfodd y Testament Newydd. ‘Roedd yr Eglwys Fore ar waith yn y byd Groegaidd. Pa mor berthnasol, felly, yw’r Beibl heddiw? Tra gellid dweud mai’r un yn sylfaenol yw’r natur ddynol ar hyd y canrifoedd, nid gwir hynny. Nid yr un y problemau a’r anawsterau; nid yr un yr iaith a’r delweddau a’r diwylliant. Yn ôl rhai, nid esbonio hen destun yw gwaith yr Eglwys, ond mynegi’n groyw a glân beth y mae’n ei gredu heddiw! Ni ellir gwneud hyn heb iddi wybod beth mae y cred a pham! Ceir hynny yn y Beibl. Yr unig ffordd i ddarganfod a rhannu addasrwydd y Beibl yw mynd i’r afael â’r Beibl. Trwy ddarllen a thrafod y Beibl y gallwn dreiddio at y neges sy’n addas ac yn berthnasol i ni heddiw. Rhaid meithrin defnydd mwy rhydd o’r Beibl yn ein plith. Gellid fod wedi osgoi llawer iawn o helyntion Cristnogaeth gyfoes pe bai mwy o ddarllen, a chyd-ddarllen call wedi bod o’r Beibl.
Nid yw ymwneud â’r Beibl yn hawdd. Mae her ynglŷn â’i ddarllen a’i drafod. Cwyd her ynglŷn â’i awdurdod; ac mae cyflwyno ei neges mewn ffordd addas yn anodd. Hawdd dweud fod angen i bobl ddarllen y Beibl. Rhaid sicrhau fod gan bobl yr hyn oll a’i gwna’n bosibl iddynt wneud hynny. Mae angen dysgu pobl sut i ddarllen y Beibl, heb hynny sut allwn ddisgwyl iddynt fedru ‘agor yr Ysgrythurau’? Dylid sicrhau fod gan bobl gyfle i ddarllen y Beibl yn fentrus gyda'i gilydd, a thrwy hynny, rhyddhau’r Gair o glymau’r geiriau. Nid digon gosod Gair Duw fel powlen o gawl cennin ar y bwrdd, heb fod gan bawb ohonom lwy i’w flasu a’i fwynhau!