Bwrlwm yn dilyn bwrlwm! Bendith at fendith, yn arwain! Wedi bendith fyrlymog cyngerdd ‘Ny Ako’ neithiwr, da oedd gweld y festri eto’n llawn i’r Oedfa Foreol Gynnar - bendith a hwyl a gafwyd dan arweiniad diogel Glyn. Thema’r Oedfa oedd llond silff o lyfrai o fewn un clawr. Y cwbl yn un gyfrol, yn storiâu a hanes, yn gyfraith a llythyrau, barddoniaeth a chwedlau; llyfrau doethineb a serch. Llyfr gwahanol i holl lyfrau’r byd; llyfr mwy na holl lyfrau’r byd. Diolch am ei gael yn y Gymraeg - rhoes urddas i’n hiaith a’i chadw’n fyw. Trwy gyfrwng nodiadau A1 cymen, gweladwy a dealladwy gan bawb, bu Glyn yn esmwyth drafod 5 cwestiwn mawr:
- Beth yw’r Beibl?
- Pam fod y Beibl yn debyg i Lyfrgell?
- Sut cafodd y Beibl ei ysgrifennu?
- Pryd cafodd y Beibl ei gyfieithu i’r Gymraeg?
- Beth yw neges y Beibl?
(Cododd sawl cwestiwn arall yn sgil y 5 uchod, gan gynnwys: 'Faint o eiriau sydd yn y Beibl?' Nodwyd yr ateb gan Glyn ar waelod y dudalen hon o nodiadau.
Mawr ein diolch i Glyn am ein hatgoffa nad cyffur ond cyffro yw Gair Duw; sicrwydd nid swcwr a geir yn hwn. Pam? Mae’r geiriau bob un (810,697 ohonynt) yn cyfeirio at y Gair: Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ein unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16 BCN). Cawsom ein hatgoffa o’r union un neges trwy gyfrwng arall y bore heddiw: graffito ar ddrws ffrynt y capel! Un gair, y pwysicaf un! Gwareded Duw ni rhag anghofio mai gwraidd ein holl weithgarwch Cristnogol, a sail ein ffydd, yw adnabod, cydnabod a pharchu Iesu.
Graffito ar ddrws ffrynt y capel
Wedi paned a sgwrs dros frecwast bach; y stondin nwyddau Masnach Deg, a chasglu nwyddau i Fanc Bwyd Caerdydd, ymlaen yr aethom i’r Oedfa Foreol.
Ym mis Medi 2015, buom yn trafod emyn o eiddo David Jones (1805-68; CFf:76):
Mae Duw yn llond pob lle,
presennol ymhob man ...
Mis Hydref: dyhead David Charles (1762-1834; CFf:686):
O! Iesu mawr, rho d’anian bur
i eiddil gwan mewn anial dir ...
Mis Tachwedd: J. G. Moelwyn Hughes (1866-1944; CFf:691)
Fy Nhad o’r nef, O! gwrando ‘nghri:
un o’th eiddilaf blant wyf fi ...
Saith mis yn ddiweddarach, yr emyn nesaf yn y gyfres hon o bregethau! Canolbwynt ein sylw yn yr Oedfa Foreol oedd emyn George Rees (1873-1950; CFf:541).
O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...
Daeth Iesu atom i wireddu breuddwyd Duw o gymod, undod a thangnefedd. Unig iawn ydoedd: ... heb neb o’th du. Ond, wrth gerdded y daith unig hon, gwelir fflam anniffoddadwy cariad yn llosgi yn Iesu: ... cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam ... Methodd angau â gwahanu Iesu oddi wrth Dduw, nac oddi wrthym ni.
Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud drwy boenau mawr ...
Gwyddai Iesu nad oedd modd i alw afradloniaid tua thref heb boen a gofid. Gwyddai mai dim ond ochain dwys, (d)drylliog lef a (ph)oenau mawr ... dim ond drwy gwyro lawr dan faich gofidiau’r byd y byddai'n bosibl i Eneiniog Duw alw’r afradloniaid tua thref.
Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl ...
O edmygedd, i ryfeddod ... i weddi. Peri rhywbeth i’r emynydd blygu mewn gweddi addolgar wrth draed Iesu: ... gwelais di dan faich gofidiau’r byd/yn gwyro i lawr ... Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try/o’m crwydro ffôl i’th ddilyn ..., ac nid ar hyd llwybrau esmwyth gwastad, ond ar hyd llwybrau dyrys, du ... heb syllu’n ôl. Gwell cerdded llwybrau dyrys yng nghwmni Iesu na cherdded llwybrau esmwyth hebddo.
Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ngrym ...
Iesu yw’r ffordd. ... ymlaen y cerddaist; nid bodloni ar ddangos y ffordd wna Iesu, ond bod yn ffordd. Ofer ein hymdrechion gorau heb fendith y Gorau Un: Pa les ymdrechu, f’Arglwydd hebot Ti, a minnau’n ddim?
Bu Cian, ŵyr 10 mlwydd oed ein horganydd y bore ‘ma, yn dawel brysur yn ystod y bregeth. Ar derfyn yr oedfa, cyflwynwyd ffrwyth ei lafur i’r Gweinidog. Wel, am ddefnydd da o 'Post It Notes'!
Gwaith Cian
Yn ei gyfarchiad Nadolig (Y Tyst, Rhagfyr 24/31 2015) soniai’r Parchedig Ddr Geraint Tudur fod 2016 wedi ei dynodi yn Flwyddyn y Beibl Byw gan yr enwadau Cymraeg. Y nod, meddai ‘yw codi ymwybyddiaeth o’r Beibl ac annog pobl i’w ddarllen a’i fwynhau. Gobeithiwn y bydd pob eglwys a phob Cyfundeb yn gwneud rhywbeth fel rhan o’r ymgyrch hon gan gofio fod gennym dri chyfieithiad o’r Beibl bellach, William Morgan a’i ddisgynyddion, y Beibl Cymraeg Newydd a Beibl.net.’
Mae ‘Blwyddyn y Beibl Byw’ yn cynnig cyfle i drin a thrafod cwestiynau ynglŷn â natur y traddodiad sydd yn y Beibl, ynglŷn â dulliau darllen, trafod a dehongli’r Beibl; ynglŷn â safle ac awdurdod y Beibl; ac ynglŷn â chymhwyso neges y Beibl i Gymru heddiw. (Da oedd bod Oedfaon y dydd heddiw yn dechrau a gorffen gan ymdrin â’r Beibl).
Heno, bu’r Gweinidog yn bwrw golwg dros dair her y gellid mynd i’r afael â nhw ym Mlwyddyn y Beibl Byw. Her Astudiaeth; Her Awdurdod a Her Addasrwydd.
Her Astudiaeth. Amod profi gorau’r Beibl yw treiddio iddo’n ddyfnach. Byddwn agored i ddarllen y Beibl gan ddefnyddio'r ystod o wybodaeth sydd ar gael. Ni ddylid ceisio ei warchod rhag unrhyw ganlyniad anffafriol a all ddod o’r ysgolheictod hwnnw. Os gwneud hynny, cyll ein darllen a’n dadansoddi bob pwrpas.
Her Awdurdod. Pa fath o awdurdod a berthyn i’r Beibl? Perthyn ei awdurdod nid i’w natur na’i gymeriad, ond i’r digwyddiadau sydd y tu ôl iddo. Tra bod y Beibl yn seiliedig ar ddigwyddiadau, nid mewn cofnodi’n fanwl hanes y digwyddiadau hynny y mae ei brif ddiddordeb, ond yn hytrach mewn cyflwyno’r iachawdwriaeth a amlygir yn y digwyddiadau.
Her Addasrwydd. Yr unig ffordd i ddarganfod a rhannu addasrwydd y Beibl yw mynd i’r afael â’r Beibl. Trwy ddarllen a thrafod y Beibl y gallwn dreiddio at y neges sy’n addas ac yn berthnasol i ni heddiw.
Nid yw ymwneud â’r Beibl yn hawdd. Mae her ynglŷn â’i ddarllen a’i drafod. Cwyd her ynglŷn â’i awdurdod; ac mae cyflwyno ei neges mewn ffordd addas yn anodd. Hawdd dweud fod angen i bobl ddarllen y Beibl. Rhaid sicrhau fod gan bobl gyfle i ddarllen y Beibl yn fentrus gyda'i gilydd, a thrwy hynny, rhyddhau’r Gair o glymau’r geiriau.
Offrymwyd y weddi heno gan Gill.
Diolch am fendithion y Sul.