MAE’R BEIBL YN GLIR: drwg a chas yw’r Moabiaid. Nid yw’r Moabiaid, na neb o’u disgynyddion i fynychu cynulleidfa ARGLWYDD … (Deuteronomium 23:3 BCN)
OND, WEDYN … daw stori Ruth - Ruth y Moabes … ond glynodd Ruth wrthi … "Paid â'm hannog i’th adael na throi’n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ym mhle bynnag y byddi di’r aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fy Nuw innau." (Ruth 1:14b,16 BCN)
MAE’R BEIBL YN GLIR: drwg a chas yw pobl gwlad Us. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o’m llaw, a rho ef i’w yfed i’r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt. Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian … " Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais … holl frenhinedd gwlad Us … (Jeremeia 25:15,16,20 BCN).
OND, WEDYN … Yr oedd gŵr yng ngwald Us o’r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg (Job 1:1 BCN).
MAE’R BEIBL YN GLIR: Dim eunuchiaid: Nid yw neb sydd wedi ei ysbaddu neu wedi colli ei gala i fynychu cynulleidfa’r ARGLWYDD (Deuteronomium 23:1).
OND, WEDYN … daw stori am Philip a’r Eunuch o Ethiopia … aethant ill dau i’r dŵr, Philip a’r eunuch, ac fe’i bedyddiodd ef (Actau 8:38 BCN).
MAE’R BEIBL YN GLIR: Drwg a chas yw’r Samariaid: Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu’r un llestri â’r Samariaid (Ioan 4:9 BCN).
OND, WEDYN … mae Iesu’n adrodd stori am ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron … Ond death teithiwr o Samariad ato, pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. (Luc 10:30,33 BCN)
Fe all fod y stori’n dechrau gyda rhagfarn, cas a gwahaniaethu, ond ... mae Ysbryd Duw yn symud pobl - symud pobl o hyd - i gyfeiriad croeso, derbyniad a chadarnhad.