O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...
(George Rees, 1873-1950; C.Ff. 541)
O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’ ...
Daeth atom i wireddu breuddwyd Duw o gymod, undod a thangnefedd. Unig iawn ydoedd: heb neb o’th du. Ar y groes, caeodd tywyllwch amdano’n dynn: Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? (Mathew 27:46). Ond, wrth gerdded y daith unig hon, gwelir fflam anniffoddadwy cariad yn llosgi yn Iesu: ... cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam, ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam. Pob cam o’r ffordd bu angau yn ddygn ceisio diffodd y fflam. Gwnaeth gelynion y golau eu gwaethaf i ddiffodd y fflam ... aflwyddiannus buont. Llwydda angau, yn ein golwg ni, i ddiffodd gobeithion disglair, i chwalu cynlluniau gwych ac i wahanu anwyliaid. Methodd angau â gwahanu Iesu oddi wrth Dduw, nac oddi wrthym ni; methodd angau a diffodd goleuni Goleuni’r byd. Yn a thrwy fflam anniffodd bywyd Iesu, anniffodd ein bywyd ninnau.
Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud drwy boenau mawr ...
Un peth yw edmygu Eneiniog Duw, y Ceidwad cry’; peth arall yw gweld a deall mai trosom ni y bu’r anturiaeth ddrud hon. Anturiaeth ddrud oedd bywyd i Iesu Grist: ... gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol (Philipiaid 2:7). Arbrawf cariad ydoedd. I fyd o afradloniaid, amlygwyd ffordd ffydd, gwefr gobaith a chyfle cariad; gwrthodwyd y cyfle a throwyd oddi ar ffordd ffydd. Gwyddai Iesu nad oedd modd i alw afradloniaid tua thref heb boen a gofid. Gwyddai mai dim ond ochain dwys, (d)drylliog lef a (ph)oenau mawr ... dim ond drwy gwyro lawr dan faich gofidiau’r byd y byddai'n bosibl i Eneiniog Duw alw’r afradloniaid tua thref. Deallodd George Rees mai ni yw’r afradloniaid; mynega hyn yn gryno daclus gyda’r defnydd cwbl fwriadol o’r ferf gwelais.
Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl ...
O edmygedd, i ryfeddod ... i weddi. Peri rhywbeth i’r emynydd blygu mewn gweddi addolgar wrth draed Iesu:"... gwelais di dan faich gofidiau’r byd/yn gwyro i lawr ... Rho imi’r weledigaeth fawr a’m try/o’m crwydro ffôl i’th ddilyn ..., ac nid ar hyd llwybrau esmwyth gwastad, ond ar hyd llwybrau dyrys, du ... heb syllu’n ôl. Gwell cerdded llwybrau dyrys yng nghwmni Iesu na cherdded llwybrau esmwyth hebddo. Pam? Am fod Iesu yn ein harwain i rywle! Edrych ar Dduw o bell yw ein tuedd naturiol. Ofer pob ymgais i groesi’r pellter heb dderbyn, dathlu a datgan mor syfrdanol o fawr a real yw’r weledigaeth sydd gennym o Dduw ... yng Nghrist Iesu. Dyma’r weledigaeth a’n try o’n crwydro ffôl! Llaw yn llaw â Christ, cawn ein harwain i mewn i’th fyd dy hun. Y mae Duw yn ein byd, gan mai byd Duw yw ein byd ni, ein byd ni yw byd Duw.
Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ngrym ...
Iesu yw’r ffordd. ... ymlaen y cerddaist; nid bodloni ar ddangos y ffordd wna Iesu, ond bod yn ffordd. OFer ein hymdrechion gorau heb fendith y Gorau Un: Pa les ymdrechu, f’Arglwydd hebot Ti, a minnau’n ddim? Er cysur, y mae Un sy’n barod i’n cynorthwyo, yn Gyfaill i gadw’n agos, ac yn Arweinydd diogel i’w ddilyn. Y mae cadw yn ymyl Hwn yn ein galluogi i ddweud, gyda hyder gostyngedig: ... dy nerth a’m ceidw innau heb lesgau. Canys fy iau sydd esmwyth ... (Mathew 11:30). Partneriaeth felly a gynigir i ni yng Nghrist; fe ofala fod y pwysau trymaf ar ei ysgwydd ei hun, a’n baich ninnau felly’n ysgafn: dy nerth a’m ceidw innau heb lesgau.
Edmygedd: O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd/a’m Ceidwad cry’. Rhyfeddod: Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud/drwy boenau mawr. Gweddi: Rho i mi’r weledigaeth fawr a’m try o’m crwydro ffôl. Cyffes: ... pa les ymdrechu, f’Arglwydd, hebot ti?