Madagascar - cychwynnwyd y gwaith Cristnogol ar yr ynys hon gan David Jones (1796-1841) a Thomas Bevan (1796-1819) yn 1818, (heb anghofio David Griffiths; 1792-1863); a bu cenhadon o Gymru yn gweithio yno ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys Elsie Stark, Gwyneth Evans, ac un o blant yr eglwys hon: Mair Griffiths. Ar ôl cyfnod llewyrchus yn genhades-brifathrawes ar ysgol merched yn un o ddinasoedd Madagascar, wedi ymddeol, daeth Mair yn ôl adref atom i eglwys Minny Street. Bu hi’n flaenllaw yn y gwaith o sicrhau ein bod yn gefeillio ag Eglwys y Tranovato ym mhorthladd Toamasina. Dedwydd a da bu’r berthynas honno i’r naill eglwys a’r llall am dros 15 mlynedd.
Hyn o gefndir sydd yn esbonio mor fawr ein llawenydd heno wrth groesawu atom: ‘Ny Ako’ - 'Yr Adlais'. Pob dwy flynedd, dan nawdd ‘Scripture Union Madagascar’, fe ânt ar daith i Ewrop. Nod deublyg sydd i’r teithiau hyn: yn gyntaf: rhannu asbri ffydd yn Nuw a gwefr Cariad Duw, ac yn ail: rhannu ac ehangu deall a gwerthfawrogiad o’r diwylliant Malagasi trwy gyfrwng cân a cherdd, celf a chrefft, dawns a drama.
Diolch i bawb a fu ynglŷn â threfnu’r cyngerdd bythgofiadwy hon. Cawsom wledd o liw, cerdd, dawns a bendith heb ei debyg! Diolch i eglwysi’r ardal am eu cefnogaeth, ond ein diolch pennaf yw i holl aelodau ‘Ny Ako’. Boed bendith arnynt; Duw a lewyrcho ar eu cenhadaeth. Hyderwn y cawn gyfle i’w croesawu eto i Gaerdydd ymhen dwy flynedd!