hithau bellach yn 15 oed, gallasai Shani ymrestru fel aelod o’r Lluoedd Arfog.
Y Deyrnas Unedig yw’r unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn caniatáu recriwtio plant i wasanaeth milwrol. Er mynych brotestio Pwyllgor Hawliau’r Plentyn y Cenhedlodd Unedig, parhau mae ‘cenhadaeth’ y Lluoedd Arfog ymhlith ein plant.
Wedi cyrraedd 15 mlynedd a 7 mis oed, mae gan blentyn berffaith hawl i ymgeisio am hyfforddiant milwrol; hyfforddiant a fuasai’n dechrau wedi troi 16 oed.
http://www.forceswatch.net/what_why/whats_the_problem/issues
Wedi ei dderbyn i’r hyfforddiant hwnnw, mae’n ofynnol iddo neu iddi wasanaethu am 6 mlynedd. Pe bai ef neu hi’n ymrestru yn 18 oed, dim ond 4 mlynedd o wasanaeth fuasai’n ofynnol. Fel hyn mae Richard Clarke, cyfarwyddwr Child Soldiers International (CSI) yn mynegi’r gofid amlwg: Whatever you think the right age is for joining the Army, nobody can justify forcing the youngest recruits to serve for longer than their adult counterparts. It’s unfair, unnecessary and, we believe, unlawful.
Yn 2012, cyflwynwyd deiseb i’r Senedd yn galw am ymchwiliad i’r genhadaeth filwrol yng Nghymru. Mewn ymateb i’r ddeiseb, cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau. Yn yr adran ‘Barn y Pwyllgor a’i Argymhellion’ nodwyd: Mae’n ymddangos bod yna dystiolaeth bod y lluoedd arfog yn ymweld yn anghymesur o aml ag ardaloedd cymharol ddifreintiedig ... Er nad oes tystiolaeth lethol bod ysgolion mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig yn cael eu targedu’n fwriadol gan y lluoedd arfog, nid yw’r rhesymau dros y nifer anghymesur i bob golwg o ymweliadau ag ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn eglur. (Pwyntiau 70 a 71; tud.27)
 lefelau diweithdra ymhlith yr ifanc yng Nghymru bellach yn 20%, gellid deall sut allasai yrfa filwrol gael ei ystyried fel opsiwn call - dewis da. Ni ddylid synnu felly mai yn yr ardaloedd ôl-ddiwydiannol, (er enghraifft y Rhondda) y gwelir y recriwtio milwrol mwyaf trwyadl. Yn ogystal â’r genhadaeth ddygn mewn ardaloedd penodol, a rheini’n ar y cyfan yn ardaloedd gymharol ddifreintiedig, mae cenhadaeth dawel - paratoadol fel petai - sydd yn cynnwys y defnydd o deganau a ddyluniwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed. http://hmarmedforces.com/
Felly, teganau ... ardaloedd cymharol ddifreintiedig ... a hysbysebu cyson, hudol. Ni ellir gwadu mai effeithiol y genhadaeth driphlyg hon. Yr un modd, ni ellir gwadu effaith dwfn, dirdynnol gwasanaeth milwrol ar blant. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gan Forceswatch wrth ymchwilio cyflwr iechyd meddwl milwyr ifanc yn amlygu fod PTSD (Post Traumatic Stress Syndrome) ddwywaith amlycach ymhlith pobl ifanc heb TGAU o’i gymharu â phobl ifanc â Lefel A (8.4% o’i gymharu â 3.3%). Yn ogystal, dengys ystadegau Forceswatch fod recriwtiaid ifanc llawer mwy tebygol i ddioddef iselder ysbryd a dibyniaeth ar gyffuriau o rwy fath wedi dychwelyd o faes y gad. Dylid ychwanegu’r amlwg: yn sgil diffyg profiad, recriwtiaid ifanc sydd fwyaf tebygol o gael eu lladd ar faes y gad. Yn gyffredinol, daw traean o’r recriwtiaid blynyddol i’r Gwŷr Traed (Infantry) o ardaloedd cymharol ddifreintiedig Cymru. Gellid ond datgan fod y genhadaeth filwrol ymhlith yr ifanc mewn gwrthgyferbyniad â’r bygythiadau a wyneba’r ifanc wrth ymrestru.
Dylid, gosod pwysau ar y Weinyddiaeth Cyfiawnder i godi oedran ymrestru i 18 oed. Er i bôl piniwn Ipsos MORI ar ran y Rowntree Reform Trust Ltd
http://www.forceswatch.net/resources/april-2013-icm-poll-army-recruitment-age-uk ddatgelu fod 78% o bobl y DU o blaid y fath newid, ni fu symud gan y Lluoedd Arfog i weithredu. Pam? Gellid awgrymu fod yr amharodrwydd hwn yn arwydd fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn llawn a llwyr sylweddoli y buasent o’r herwydd yn colli talp sylweddol o’i recriwtiaid.
Ie, y Deyrnas Unedig bellach, yw’r unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd, NATO a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig sydd yn parhau i ganiatáu recriwtio milwrol ymhlith plant. Nid oes i blentyn le yn y Lluoedd Arfog. Gwyddom hynny … gwyddom hynny, os bosib.
(OLlE)