‘Resurrection’, William Blake (1757-1827)
‘Resurrection’ (1805), William Blake (1757-1827)
Mae William Blake yn gosod ni yn y bedd, gyda Christ a 3 angel. Tra bod un angel yn gwthio’r maen o’r neilltu, mae’r ddau arall yn gwarchod y Crist newydd-atgyfodedig, a chasglu'r llieiniau. Awgryma osgo'r Crist ei fod ar fin codi ar ei draed, ystwytho, a chamu i newydd fore’r trydydd dydd.
Perthyn i’r llun hwn rhyw lonyddwch hyfryd. Daeth Iesu o farw’n fyw - trowyd y byd a’i ben i waered, tu chwith allan i gyd - ond gwnaethpwyd hynny’n dawel daclus, heb gynnwrf. Mae’r cyfan oll yn llwyr o dan reolaeth.
Yr Iesu atgyfododd
mewn dwyfol, dawel hedd ...
(Thomas Levi, 1825-1916; C.Ff:553)
Aethant hwythau a diogelu’r bedd trwy selio’r maen, a gosod gwarchodlu wrth law (Mathew 27:66).
... selio’r maen ... nid oedd y sêl, mae'n debyg, ond darn o gortyn, a dau damaid o wêr. Credwyd mai’r disgyblion buasai’n dod i ymyrryd â’r bedd. Prawf pendant o hynny fuasai’r sêl doredig! ‘Roedd yr awdurdodau’n sicr mai o du pobl y deuai’r ymdrech i gael Iesu o’r bedd. ‘Roedd yr awdurdodau yn poeni am bobl yn torri i mewn oddi allan.
Cawn ein hatgoffa gan Blake, fod y grym yn y bedd. Tra bod yr awdurdodau’n trefnu i atal pobl rhag torri mewn i'r bedd, ‘roedd Bywyd yn dawel paratoi i dorri allan. Tu ôl i’r maen mae’r grym - digon, mwy na digon o rym i dorri’r sêl, treiglo’r maen a ... newid byd.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)