Nid ‘awesome’ mo ‘awesome’ bellach. Tan y gymharol ddiweddar, gallasai tad yn ei bedwardegau hwyr mentro disgrifio rhywbeth/rhywun gwych iawn fel ‘awesome’ heb fod ei blant - y naill a’r llall yn ei harddegau cynnar - yn troi ei hwynebau oddi wrtho mewn cywilydd. Dim rhagor; bellach os yw rhywun/rhywbeth/ yn wych iawn dylid defnyddio’r ansoddair ‘sick’ i’w ddisgrifio. Felly, ‘sick’ yw gwych iawn. Mae hyn braidd yn anodd; nid gwych mo bod yn ‘sick’ wedi’r cyfan.
Ta waeth, fel y gwyddoch mai Wythnos Cymorth Cristnogol yn dechrau ‘fory. Diolch byth, dim ond am wythnos y bydd rhaid sôn a chlywed sôn am helpu’r tlawd a dileu tlodi! Charles Darwin (1809-1882) oedd, sydd, ac a fydd yn iawn: survival of the fittest yw bywyd. Trechaf treisied, gwannaf gwaedded. Mae’n drist bod yna bobl yn dlawd, ond mae hufen yn dod i’r top. Mae’n drueni fod pobl yn gorfod ffoi o’u cynefin, ond beth, o ddifrif, a wnelo hynny â ni? Mae’r cryf yn goroesi, ac mae’r gwan yn darfod: fel yna mae bywyd yn gweithio. Peidiwch gefnogi Cymorth Cristnogol felly. Cadwch eich arian - chi sydd wedi gweithio’n galed amdano. Yn hytrach na rhoi £10 yn yr amlen goch gwariwch yr arian ar rywbeth nad sydd angen arnoch. Wedi’r cyfan, mae pawb yn haeddu treat bach nawr ac yn y man!
Cwestiwn bach i orffen: a’i ‘sick’ - gwych iawn - y sylwadau hyn gennyf heddiw, neu jest ‘sick’ - ych-a-fi - 'sick'?
Y mae’r un sy’n gorthrymu’r tlawd yn amharchu ei greawdwr, ond y sawl sy’n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu (Diarhebion 14:31).
(OLlE)