‘Anghrediniaeth Thomas’, Giovanni Battista Cima, neu 'Cima da Conegliano' (c.1459-c.1517)
'Anghrediniaeth Thomas', (1502-4), Giovanni Battista Cima, neu 'Cima da Conegliano' (c.1459-c.1517); Oriel Genedlaethol Llundain
Allorlun oedd hwn. Bwriadwyd i’r llun fod yng nghrog uwchben allor eglwys Sant Thomas yn Portagruaro, ger Fenis. Crëwyd y llun i sefyll dros yr allor, yng ngolau’r Offeren. Yn wreiddiol, goleuir y llun hwn gan "Gwnewch hyn er cof amdanaf ..." (1 Corinthiaid 11:24b BCN). Rhannwyd y bara a’r gwin - Corpus Christi - yng nghysgod: Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a’i rhoi yn fy ystlys (Ioan 20:27 BCN). Bu Pobl Dduw yn derbyn ‘corff Christ’ wrth weld Thomas yn cyffwrdd â’r corff hwnnw, gan ddatgan "Fy Arglwydd a’m Duw!" (Ioan 20:28 BCN)
Yn y llun … Crist gyhyrog, ymlaciedig a 11 disgybl, a 9 ohonynt yn canolbwyntio ar y Crist byw, bendigedig hwn. Ond, mae 2 yn syllu atom ni.
Crëir pont ganddynt - pont rhyngddynt hwy a ninnau. Pan oedd llun da Conegliano yn ei briod le, uwchben allor eglwys, ‘roedd y ddau hyn yn tynnu ni: y rhai a gredodd heb iddynt weld (Ioan 20: 29 BCN) a nhw: … yr oedd y disgyblion unwaith eto yn y tŷ, a Thomas gyda hwy (Ioan 20:26 BCN) ynghyd.
Llun: Alias Archie
Bellach, mae’r llun yng ngrog ar wal oriel. Golyga hynny fod y ddeinamig wedi newid yn llwyr, ond er mor fawr y newid, nid drwg mohono. Nawr, eiddo’r ddau hyn amgenach gweinidogaeth. Nid creu cysylltiad mo gwaith y ddau hyn nawr, ond codi cwestiynau: ‘Beth, felly a weli di fan hyn? A weli di lun, jest hen lun: lliw, llewyrch, osgo a thechneg? Neu a weli di gysgod olau o’r Crist byw?’
Beth weli di felly? Hen lun, neu:
Christ the uncrucified
Christ the discrucified, his death undone,
His agony unmade, his cross dismantled.
(The Transfiguration, Edwin Muir (1887-1959); Collected Poems 1960.)
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen
(OLlE)