Mae'n hen arfer gan Gyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd i gynnal Oedfa Cymorth Cristnogol ym mis Mai. Ein braint eleni oedd cael cwmni, a derbyn arweiniad gan Huw Thomas (Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru). Cawsom gyflwyniad cywrain ganddo yn bwrw golwg dros holl ystod gwaith Cymorth Cristnogol, cyn tynnu'n sylw at echel yr apêl eleni: effeithiau newid hinsawdd ar bobl Bangladesh. Diolch am y cyfle hwn i gyd-addoli, a chyd-ddysgu gan ogwyddo ein gwasanaeth tuag at genhadaeth drugarog ein Harglwydd Iesu.
Boed bendith ar lafur ac arweiniad swyddogion Cymorth Cristnogol, ymroddiad y gweithwyr gwirfoddol a'r rheini sydd yn cyfrannu'n hael o flwyddyn i flwyddyn.
Gweddïwn am wenau Duw ar weinidogaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.