Cafwyd taith gerdded hyfryd heddiw a hithau’n ddiwrnod bendigedig o haf. Dilynwyd afon Elái am ryw filltir o hyd o Sain Ffagan i gyfeiriad Caerdydd. Ni chlodforwyd dilyn llwybr afon yn ei delyneg i fis Mai gan Eifion Wyn ond cofiasom am linell R. Williams Parry (‘Bardd yr Haf’ ) yn sôn am ‘ furmur dyfroedd ar dragywydd daith’ (Cerddi’r Haf, Gwasg y Bala, argraffiad 1956, t. 44). Dilynasom ran o hynt ‘ tragwyddol’ afon Elái ar ei thaith o’i tharddle ger Ton-yr-Efail i’r môr ym Mhenarth.
Unwaith eto cawsom brofi cynhesrwydd a bendith cydgerdded â’n cyd-aelodau a ninnau ond newydd fod yn ystyried hanes y daith ryfeddol honno i Emaus yng nghyfarfodydd y Pasg dan arweiniad ein Gweinidog.