'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (47)

‘Noli Me Tangere’, Titian (m. 1576)

‘Noli Me Tangere’ (c.1510-15), Titian (m. 1576). Oriel Genedlaethol Llundain

Credir fod Titian yn ei ugeiniau cynnar pan gwblhaodd y llun hwn. Llun bychan ydyw, 109 x 91cm. Bwriadwyd y gwaith i ystafell, neu gapel, ond nid i eglwys fawr. Gwrthrych myfyrdod ydyw, cyfrwng defosiwn personol.

Sylwch ar hyn nad sydd i weld … Mae’r haul yn codi, o’r golwg, tu ‘nôl Crist. O’r golwg hefyd, tu ‘nôl Mair, mae’r bedd gwag. Felly, beth sydd i weld? Crist a Mair! Ie, a chymaint eto. Gellid crynhoi cynnwys y llun i ddau air: ‘Cariad’ a ‘Tirwedd’. Sylwch sut mae’r goeden a’r berth yn ‘adleisio’ Iesu a Mair. Hanfod yr hyn sydd yn digwydd rhwng Iesu a Mair yw cariad. Mae osgo’r naill a’r llall yn ymgorfforiad o gariad. Mae Mair ar ei gliniau; mae ei llaw chwith yn gosod y peraroglau o’r neilltu, tra bod ei llaw dde yn estyn at, ac am y Crist. Mae ei llygaid yn pefrio o adnabyddiaeth: gobaith newydd, rheswm newydd i fyw. Mae Iesu yn tynnu oddi wrthi wrth bwyso ati - cariad. Yn ei law, mae hof neu fath o raw. Pam? Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal." (Ioan 20:15 BCN).

Gan ddeisyf maddeuant pob un llawchwith, dylid cymryd yn ganiataol mai bwriad Titian yw ein bod yn gweld a deall mai Mair lawdde yw hon. Mae’r peraroglau a fu ganddi’n ddiogel yn ei llaw dde, bellach yn cael ei gosod o’r neilltu gan y llaw chwith. Symudwyd yr anobaith a’r torcalon - y peraroglau - ganddi o’i llaw dde i’w llaw chwith. Gosodir yr anobaith y torcalon o’r neilltu, er mwyn iddi gael estyn am obaith newydd y bywyd newydd yng Nghrist.

Dychwelwn at yr hyn nad sydd i weld … dwy linell grom. Dyma’r cyntaf, yn symud o droed dde'r Crist (sylwch mor las y borfa sydd wrth ei draed. Lle bynnag mae hwn yn sefyll, mae bywyd yn ffynnu.), i fyny ar hyd ymyl mewnol ei gorff, i fyny eto at dalcen y tŷ sydd yn olau o haul newydd y bore, ac ymlaen i’r adfail ar dop y bryn.

Mae’r llinell grom arall yn dechrau lle mae gwisg Mair yn gorffen. Llifa i fyny at ei phen, cyn saethu fyny ar hyd ymyl y goeden.

Mae’r naill linell a’r llall yn cynnwys a chario cymeriad a thirwedd. Mae llinell grom y Crist byw yn symud tuag at, a thros le mae pobl yn byw a bod. Mae un o drigolion y pentre’ eisoes allan yn cerdded y ci. Nid peth arallfydol mor Atgyfodiad, ond grym i gynnal bywyd pob dydd. Grym ydyw a’n galluoga ni i ymgynnal bob dydd, o ddydd i ddydd.

Mae llinell grom Mair yn llifo o’r llawr (sylwch mor ddifywyd y pridd lle mae Mair yn lledorwedd), trwyddi, a chan gyffwrdd talcen Iesu, saetha’n syth i fyny. Mae taflwybr y naill gymeriad a’r llall yn dweud cyfrolau amdanynt. Llifa llinell bywyd y Crist byw tuag at, a thros bobl. Llifa linell bywyd Mair, o’r llawr - reit lawr yn y baw - i fyny. ‘Ar i fyny’ mae hon: …aeth Mair Magdalen i gyhoeddi’r newydd i’r disgyblion, "Yr wyf wedi gweld yr Arglwydd", meddai … (Ioan 20:18 BCN)

Un peth bach mawr arall - y peth: mae’r ddwy linell grom yn croesi, Coesant wrth dalcen Iesu. Lle mae’r llinellau’n croesi gwelir hanfod ein ffydd: meddwl Crist. … y mae gennym ni feddwl Crist meddai Paul (1 Corinthiaid 2:16 WM).

Rhaid derbyn goleuni Meddwl Crist. Pobl sicr eu cam, hyderus eu hosgo, doed a ddelo, yw'r sawl all ddweud mewn gwirionedd: … y mae gennym ni feddwl Crist. Gyda Meddwl Crist, gwyddom fod daioni’n gryfach na drygioni; mae goleuni’n gryfach na thywyllwch; bywyd yn gryfach na marwolaeth. Ni biau’r fuddugoliaeth yn a thrwy Crist Iesu.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)