Sant y Gwyddyl - Padrig (c.389-461)
Padrig Sant; ffenest lliw yn Eglwys Benin Sant, Kilbennan, Swydd Galway, Iwerddon.
Sylwch ar y meillionen. Defnyddiai Padrig y meillionen fel darlun o Dduw: Tad yn creu, Mab yn gwaredu, Ysbryd yn cynnal - Duwdod, Undod, Trindod.
Daw'r weddi isod o 'Lurig Padrig' a gyfansoddwyd yn yr wythfed ganrif:
Grist bydd gyda mi, Crist o'm mewn,
Crist y tu cefn i mi, Crist y tu blaen i mi,
Crist gerllaw imi, Crist i’m hennill i,
Crist i’m cysuro a’m hadfywio,
Crist o danaf Crist uwch fy mhen,
Crist mewn llonyddwch, Crist mewn perygl,
Crist yng nghalonnau pawb sy’n fy ngharu,
Crist ar wefus ffrind neu ddieithryn. Amen