19 Mawrth 2014: ‘Roedd ganddo newyddion da: ei gerddediad yn sionc, ei wen yn fawr ac ysgafn. ‘Roedd ei osgo’r dydd Mercher hwnnw yn ymgorfforiad o hyder - hyder newydd - hyder na welwyd mo’i debyg ers yn hir, rhy hir.
16 Mawrth 2016: Nid da'r newyddion heddiw, a'i gerddediad felly'n arafach, a'i wen yn drwm braidd. ‘Roedd ei osgo yn ymgorfforiad o ofid - hen ofid - nid oedd pethau cystal ag y dymunai, ac 'roedd yn rhaid cydnabod hynny.
19 Mawrth 2014
19 Mawrth 2014: Trafodai’r Canghellor ei filiynau a’i bilynnau yn sionc a llon. Neges y gyllideb honno oedd bod llywodraeth gyfredol San Steffan, gyda mawr sêl a chryn ofal, wedi llwyddo i godi’r economi ar ei thraed. Dim rhagor o fygythion a rhybuddion ailadroddus, ailadroddus, ailadroddus! Daeth dyddiau gwell, a gwell dyddiau eto’i ddod!
16 Mawrth 2016
16 Mawrth 2016: Trafodai’r Canghellor ei filiynau a’i bilynnau yn lleddf ofalus. Neges y gyllideb heddiw yw bod llywodraeth gyfredol San Steffan, gyda chryn ofal a mawr sêl, heb lwyddo - hyd yn hyn - i godi’r economi ar ei thraed. Daeth rhagor o fygythion a rhybuddion - rhaid wrth doriadau pellach; gwerth £3.5bn ohonynt. Daw dyddiau gwell; daw cyllideb gwarged yn 2020. Rhaid wrth gyllideb gwarged yn 2020!
19 Mawrth 2014: ‘Roedd Etholiad Cyffredinol yn prysur agosáu, ac ‘roedd y Canghellor am i bobl sylweddoli dau beth; yn gyntaf mae ei blaid yntau oedd wedi llywio a lliwio’r adferiad hwn. Yn ail, rhaid i bobl barhau i ymddiried yn y llywodraeth os oeddent am weld yr adferiad yn parhau; wedi’r cyfan, peth bregus yw’r economi, bregus iawn.
16 Mawrth 2016: Mae Refferendwm Ewrop yn prysur agosáu. Mae Mehefin 23ain yn destun ymrafael, os nad ymrannu i’r blaid Dorïaidd. Nid oedd y Canghellor o blaid cynnal Refferendwm. Credodd, y buasai pleidlais agored yn siglo’r economi ac yn hollti’r blaid y buasai’n dda ganddo, efallai, cael cyfle i’w harwain yn y dyfodol. Mynnodd y Prif Weinidog cynnal Refferendwm. Bydd colli’r dydd ym Mehefin, yn golygu fod Mr Cameron yn colli safle fel arweinydd, ac ... Mr Osborne yn colli cyfle i fod yn arweinydd. Mehefin 23, a Chyllideb 2020 - gyda’r naill beth a’r llall mewn golwg, ‘roedd y Canghellor am i bobl sylweddoli dau beth heddiw; yn gyntaf mae dim ond ei blaid yntau allasai llywio a lliwio’r adferiad yr economi. Yn ail, rhaid i bobl barhau i barhau i ymddiried yn y llywodraeth os oeddent am weld adferiad economaidd; wedi’r cyfan, peth bregus yw’r economi; llawn mor fregus â gyrfa wleidyddol.
19 Mawrth 2014: Nid oedd hyder byrlymog y Canghellor a Llywodraeth San Steffan mewn cynghanedd â phrofiad bywyd y trwch sylweddol o bobl eu gofal. Cyhoeddwyd parti gyda’r Gyllideb honno, ond nid pawb oedd â gwahoddiad.
16 Mawrth 2016: Mae gofid amlwg y Canghellor a Llywodraeth San Steffan yn adlewyrchiad o ofid pobl eu gofal. Mae Prydain sionc, hyderus llon Cyllideb 2014 yn bodoli, ond yn bodoli wrth ei hochr mae Prydain y Banciau Bwyd. Beth bynnag arall yw gwaith Llywodraeth, rhaid iddi warchod pawb nid dim ond y llewyrchus eu byw a dedwydd eu byd. Gwarchod pawb yw’r unig ddiogelwch, a’r unig lwyddiant i ymgyrraedd ato.
(OLlE)