Heno, "Cipolwg Cerddwr" yng nghwmni Gareth Pierce, Caerfyrddin. Cawsom gipolwg teuluol, cofiannol, barddonol, darluniadol, chwedlonol, naturiaethol - 'cipolwg' eang a thra diddorol. Diolch am noson fuddiol a braf, yn glo teilwng i'r tymor llewyrchus hwn. Mawr ein diolch i aelodau'r pwyllgor am ei gwaith, ac i bawb am eu cefnogaeth a chwmnïaeth.
Edrychwn ymlaen i'r Cinio Pen Tymor, nos Fawrth, Mawrth 29 yng Nghlwb Golff yr Eglwys Newydd am 7 o'r gloch. Y gwestai fydd ein cyd-aelod, Alun Guy.