A hithau’n ddiwrnod godidog o Wanwyn ac yn dilyn coffi yng nghaffi Pedal Power, ein helusen am eleni, cafwyd taith gerdded hyfryd drwy gaeau parc Bute. Braf oedd gweld llawer o bobl ifanc yng nghwmni caredigion yr elusen yn beicio’n hapus a diofal ar hyd llwybrau’r Parc.
Fel y bardd teimlem fod dyfodiad
‘...myrdd o flodau mwyn
A naws gynnes y gwanwyn
Yn rhoi balm ar friwiau’r byd.’
(J.R. Jones, Rhwng Cyrn yr Arad’, Llyfrau’r Dryw, 1962 t.33)
Enghreifftiau o feiciau arbennig Pedal Power