Dorothy a’r Porthor (Ioan 20:14)
Hanfod neges Bened Sant (480-597) oedd ‘ora et labora’. Credai Bened mai curiad calon y bywyd Cristnogol oedd gweddi a gwaith, llonyddwch a llafur, ymdawelu ac ymdrechu. O’r fath ddechreuadau datblygodd ffordd o fyw'r ffydd Gristnogol sydd bellach wedi lledu trwy’r byd i gyd. I sicrhau cadw at yr egwyddor, ysgrifennodd Bened ei Reol, Rheol Bened, sef cyfrol o gyfarwyddiadau i gynorthwyo bob cymuned Benedictaidd i gynnal fflam ‘ora et labora’.
Un o gymeriadau allweddol Rheol Bened yw’r Porthor sy’n gyfrifol am ddrws y mynachdy. Credai fod y croeso a estynnir, neu nas estynnir, i ymwelwyr, dieithriaid a thrueiniaid wrth ddrws y mynachdy yn fynegiant o natur y gymuned, ac yn adlewyrchiad o berthynas y gymuned honno â Christ. Rhaid oedd i’r Porthor, er enghraifft, osod ei wely yn agos at ddrws y mynachdy; trwy gysgu yn agos at, neu wrth ymyl, y drws, medrai godi ac ateb y drws yn brydlon. Cyn agor drws y mynachdy, a chyn gwybod pwy oedd yno, ‘roedd y Porthor i ddweud: ‘Diolch i Dduw; eich bendith os gwelwch yn dda’. Hynny yw, diolch i Dduw am yr ymwelydd ac am yr ymweliad, gan gymryd yn ganiataol fod yr ymwelydd a’r ymweliad, y naill fel y llall, yn gyfryngau bendith. ‘Roedd yr awdures Dorothy Parker (1893-1967) yn enwog am ei synnwyr digrifiwch tywyll a miniog; ei harfer, dywedir, oedd ateb y ffon gyda’r cwestiwn: What fresh hell is this? Felly, Dorothy Parker neu’r Porthor? What fresh hell is this? neu Diolch i Dduw, eich bendith os gwelwch yn dda. Credai Bened y dylai’r Porthor fod yn barod ar unrhyw amser i ateb y drws. Ychwanegodd hefyd bod disgwyl i’r Porthor, boed ddydd neu nos, cyfleus neu anghyfleus, i hysbysu’r Abad a gweddill y mynaich eraill fod ganddynt ymwelydd, er mwyn iddynt hwythau hefyd cael estyn croeso a lletygarwch. O fod ar ffo hawdd dychmygu effaith gynhaliol y fath groeso. Gwyddom am aelwydydd lle mae’r trigolion yn hoffi ‘cael bod yn barod i ymwelwyr’. Ceir aelwydydd eraill â’u drws yn gyson agored a’u croeso’n gyson gynnes. Iddynt hwy, nid yw ymweliad annisgwyl, ar hap, yn drafferth; bendith ydyw: Diolch i Dduw, eich bendith os gwelwch yn dda nid What fresh hell is this? Camp yr eglwys leol yw bod yn agored a chroesawgar ... i bawb, gan gynnwys y rheini nad sy’n credu’r un fath â ni, a’r rheini nad sy’n credu o gwbl.
Heb amheuaeth, mae ymweliad, galwad ffôn, neges destun, e-bost a chyfarfyddiad annisgwyl yn medru tarfu ar gynlluniau gan greu anrhefn o’r rhestr o bethau sydd angen eu gwneud. Cofiwn mai Duw yn tarfu yw ein Duw ni; Duw yr ‘interruption’ ydyw. Gellir olrhain tarddiad y gair ‘interrupt’ i ddau air Lladin: ‘inter’ - rhwng, a ‘rumpere’ - torri i mewn. Duw yn torri i mewn yw ein Duw ni; daw i ganol ein byw, yn annisgwyl, a ninnau o’r herwydd yn gorfod ymateb iddo. What fresh hell is this? neu Diolch; dy fendith O! Dduw, os gweli’n dda? Gwelir hyn hefyd yn ein perthynas â’n gilydd. Tyf y plentyn yn arddegun: What fresh hell is this? neu Diolch i Dduw, eich bendith os gwelwch yn dda? Mae rhieni yn heneiddio, daw newidiadau anorfod: What fresh hell is this? neu Diolch i Dduw ...?; mae’r eglwys leol yn newid, gan fod newid yn arwydd o fywyd: What fresh hell is this? neu Diolch i Dduw ...?; Ffoaduriaid? What fresh hell is this? neu Diolch i Dduw ...? Pam y fath bwyslais gan Borthor Bened ar letygarwch? Pam mynd i’r fath drafferth i groesawu dieithryn? Credai Bened mai fel dieithryn y daw'r Crist byw atom.
... troes Mair yn ei hôl, a gwelodd Iesu yn sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd ... (Ioan 20:14) Yn ystod yr ymddiddan a’r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy, ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef. (Luc 24:15) Pan ddaw’r ymwelydd annisgwyl, neu’r alwad ffôn anghyfleus a’r cyfarfyddiad lletchwith, boed i ni gofio Porthor Bened. Cofiwn Dorothy hefyd! Hawdd ymateb i bob tarfu gydag ochenaid: What fresh hell is this? Llawer gwell ymateb: Diolch i Dduw, Diolch i Dduw, eich bendith os gwelwch yn dda. Y perygl mwyaf yw bod Crist bellach ym mhob man ac ym mhawb. Efallai daw’r Crist byw atom yr wythnos newydd hon, a ninnau fel Mair heb sylweddoli mai Iesu ydoedd ... . Meddyliwn! Dychmygwn ...