Sul y Datgan yw hwn; datgan ffydd; datgan mawl a chlod, datgan rhyfeddod a syndod: Cododd Iesu! Mynnai’r Gweinidog nad pobl yn unig sydd yn datgan gwefr y Pasg heddiw; mae’r cread gyfan yn datgan! Fel man cychwyn i'n haddoliad felly, darllenwyd ganddo rannau o emyn mawl Sant Ffransis (1182-1226) (cyf. T. Gwynn Jones; 1871-1949):
Popeth a wnaeth ein Duw a’n Rhi,
cyfoded lef i’n canlyn ni,
i'r Arglwydd Haleliwia.
Ti, danbaid haul, oleuni gwiw,
di, arian loer o dirion liw,
ti, fuan wynt a’th rymus lef,
gymylau sydd yn nofio’r nef …
Ti, ddŵr rhedegog pur ei ryw,
rho dithau glod i’r Duw a’th glyw,
di, dân meistrolgar sydd ynghyd
yn gloywi a gwresogi’r byd …
Fwyn ddaear-fam o ddydd i ddydd
i ni sy’n rhoi bendithio rhydd,
dy ffrwyth, dy flodau, o bob rhyw,
datganant hwy ogoniant Duw.
Popeth a wnaed gan Luniwr byd
i'w foli doed ag isel fryd,
i'r Arglwydd, Haleliwia.
Wedi derbyn adnodau llond y Set Fawr o blant, cafwyd cyfle i rannu gwefr y Pasg â’r plantos a phlant, a hynny trwy gyfrwng pump peth gwahanol sydd yr un fath! Wedi i Owain greu amlinelliad â’i fys yn yr aer, aeth dwylo’r plant i fyny'r naill ar ôl y llall! Calon! Oherwydd Pasg ein Harglwydd, mae’r byd i gyd yn drwch o gariad. Dangoswyd y galon gyntaf; calon bren - syml ddigon, ond arbennig. Cerfiwyd hi o bren olewydd, ac fe ddaw o ddinas Jerwsalem. Llenwyd bywyd bobl Jerwsalem, dwy ganrif a rhagor o flynyddoedd yn ôl, gan gariad, oherwydd Pasg Iesu. Calon gyffredin oedd hon, meddai Owain, cyffredin - ac mae Cariad y Pasg yn gyffredin i bawb; eiddo pawb y Cariad hwn, pawb yn ddiwahân. Galon drom, goch oedd y nesaf ac wedi ysgythru iddi'r geiriau I Love You. Mae Cariad y Pasg yn gariad i bawb, o bob iaith, diwylliant, a chefndir. Daethom wedyn at y drydedd galon: calon syml ddigon, ac arni’r enw ‘Evans’. Mae Cariad y Pasg yn creu teulu ohonom (nid teulu’r Evansiaid, er cystal y rheini!) ond teulu Duw. Unir pawb o bobl y byd â chariad, mewn bywyd newydd o wasanaeth i’n Harglwydd byw a bendigedig. ‘Roedd y galon olaf nesaf ynghudd mewn blwch bach, a Meg fach bu’n brysur yn datod y clesbyn, a dyma hi … galon fach, fel trysor mewn blwch. Ynghlwm wrth y galon leiaf hon roedd neges fawr fawr: ‘rydym yn drysor gan Dduw. Mor werthfawr ydym iddo, nes iddo roi Iesu i ni, a throsom, gan sicrhau i ni fywyd sydd yn para byth! Gyda gofal mawr, bu Owain yn dangos y galon olaf: calon arian fawr, a phan dderbyniodd Jac y galon hon i’w ddwylo, clywid y galon yn ‘canu’. Ynddi ‘roedd cloch fach soniarus yn tincial gyda phob symudiad. ‘Roedd y plant yn fud, a’r gynulleidfa’n clustfeinio wrth i’r plant basio’r galon o law i law a’i hysgwyd bob un. A’r neges? Er mor bwysig yw dod i’r capel, a gwneud beth sydd dda, rhaid hefyd, fel y galon olaf hon, fod yn llafar ein ffydd. Rhaid rhannu’r Newyddion Da: Cododd Iesu! Mae ein byd a’n bywyd yn drwch o gariad Duw - rhaid i bobl cael clywed y newyddion da hyn!
Shani a Connor bu’n arwain y defosiwn heddiw, a mawr ein diolch iddynt am ddarlleniad a gweddi bwrpasol a hyfryd iawn. ‘Roedd darlleniad y mab yn arwain at homili’r tad: Iesu’n Ymddangos i’r Disgyblion (Luc 24:36-48). Gan weddi Shani, crëwyd dolen gyswllt rhwng Oedfa Foreol y Pasg a’r Wylnos neithiwr. ‘Mae’n hen arfer gennym bellach i gynnal Gwylnos Nadolig, ond menter newydd eleni oedd cynnal Gwylnos y Pasg. Cafwyd bendith - oedfa dawel, syml yn y Festri, yn echelu ar y ffaith fod Duw ar waith, liw nos, yn tynnu bywyd o afael marwolaeth yn ôl: Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw’r ARGLWYDD. (Eseia 45: 3; BCN) ‘Roedd nifer hefyd yn falch o’r cyfle a ddarparwyd i ‘’dilyn’ yr oedfa adref, trwy gyfrwng y wefan hon.
Y mae’r gred yn Atgyfodiad Crist fel ffaith hanesyddol yn seiliedig ar ddau fath o dystiolaeth a geir yn y Testament Newydd: y dystiolaeth fod y bedd wedi ei ddarganfod yn wag ar fore’r trydydd dydd; a’r dystiolaeth fod Iesu wedi ymddangos i’r disgyblion yn fyw ar ddydd y Pasg a’r deugain niwrnod dilynol. Y mae tystiolaeth yr ymddangosiadau yn hŷn (gweler ... ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg. Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'r brodyr ar unwaith - ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion. Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd I minnau hefyd, fel ryw erthyl o apostol. 1.Corinthiad 15: 5-8 BCN), a ysgrifennwyd flynyddoedd o flaen yr Efengylau), yn gryfach ac yn bwysicach na thystiolaeth y bedd gwag. Y mae rhai ysgolheigion Cristnogol yn credu nad yw’r hanesion am y bedd gwag yn seiliedig ar ffaith hanesyddol, ond mae storiâu symbolaidd ydynt a dyfodd yn nhraddodiad yr Eglwys Fore fel cyfrwng i bwysleisio’r gwirionedd hanfodol:
Ni allodd angau du
ddal Iesu’n gaeth
ddim hwy na’r trydydd dydd –
yn rhydd y daeth;
ni ddelir un o’i blant
er mynd i bant y bedd,
fe’u gwelir ger ei fron
yn llon eu gwedd.
(Gwilym ab Elis, 1752-1810; CFf.:764)
Aeth rhai mor bell ag awgrymu bod esgyrn Iesu o Nasareth yn dal i orwedd hyd heddiw yn naear Israel/Palestina. Ni ellir profi hynny, mwy nag y gellir profi, fod darganfod y bedd gwag yn ffaith. Gall Cristnogion amrywio yn eu barn ar y cwestiwn hanesyddol, a bod yn unfryd ar gwestiwn llawer pwysicach, sef bod Crist eto’n fyw, yn bresennol ym mhobl a gyda phobl, ar waith drostynt, ynddynt a thrwyddynt. Hyn o wirionedd oedd canol a chalon homili’r bore a phregeth y nos (darparwyd crynodebau ohonynt eisoes).
Testun homili’r bore oedd Luc 24:29 - Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... One touch of nature makes the whole world kin, meddai William Shakespeare (1564-1616; Troilus And Cressida Act 3, Golygfa 3, 169-179). Tebyg y gallwn y Sul hwn newid y frawddeg honno: One touch of Christ makes the whole world kin. 'Rydym yn dyheu am fyd, gwlad a chymdogaeth heb ddwrn, pastwn, gwn na bom. Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... myfi yw, myfi fy hun. Estynna Iesu ei law i ni, i ni gael estyn ein llaw i eraill. Yn sgil y Pasg, estynnwn law i ddieithryn - beth bynnag bo natur y dieithrwch a’r dieithri. Y mae crefydd - y cwbl ohoni - mewn newid ‘nhw’ am ‘ni’.
Ehanga ‘mryd a gwared fi
rhag culni o bob rhyw,
rho imi weld pob mab i ti
yn frawd i mi, O! Dduw.
(E.A.Dingley, 1860-1948; cyf. Nantlais, 1874-1959; CFf.: 805)
Bu’r Gweinidog yn pori eto yn Rheol Bened Sant (480-543)! Y Porthor aeth a’i sylw y tro hwn! Un o gymeriadau allweddol Rheol Bened yw’r Porthor sy’n gyfrifol am ddrws y mynachdy. Credai Bened fod y croeso a estynnir, neu nas estynnir, i ymwelwyr, dieithriaid a thrueiniaid wrth ddrws y mynachdy yn fynegiant o natur y gymuned, ac yn adlewyrchiad o berthynas y gymuned honno â Christ. Rhaid oedd i’r Porthor, er enghraifft, osod ei wely yn agos at ddrws y mynachdy; trwy gysgu yn agos at, neu wrth ymyl, y drws, medrai godi ac ateb y drws yn brydlon. Cyn agor drws y mynachdy, a chyn gwybod pwy oedd yno, ‘roedd y Porthor i ddweud: ‘Diolch i Dduw; eich bendith os gwelwch yn dda’. Pam y fath bwyslais gan Borthor Bened ar letygarwch? Pam mynd i’r fath drafferth i groesawu dieithryn? Credai Bened mai fel dieithryn y daw'r Crist byw atom. Mynnai Owain fod i’r Pasg ei fendithion, a’i beryglon. Y perygl mwyaf yw bod Crist bellach ym mhob man ac ym mhawb. Golyga hynny, y gallasai’r Crist byw dod atom a ninnau fel Mair heb sylweddoli mai Iesu ydoedd... (Ioan 20:14). Meddyliwn! Dychmygwn ...
Nodwyd y Grawys eleni trwy gyfrwng cynllun ‘Solvitur ambulando’. Diolch i’r rheini a fentrodd y cynllun. Mae amryw wedi cael hwyl ar y Via Dolorosa. 88 milltir dros 40 diwrnod. 2.2 milltir bob dydd. Llwyddodd tri i gwblhau’r daith o Jerwsalem i Damascus. 150 milltir dros 40 diwrnod. 3.75 milltir y dydd; a dau arall wedi llwyddo i gyflawni her fawr yr Exodus: 375 milltir dros 40 diwrnod.
Darparwyd egwyl feunyddiol o ddefosiwn yn ystod yr Wythnos Fawr. Diolch am y cyfuniad o ddelwedd, adnod, myfyrdod a gweddi yn gymorth i’n defosiwn o ddydd i ddydd.
Mae deugain diwrnod y Grawys yn arwain, nid at Sul y Pasg, ond yn hytrach at Dymor y Pasg. Ymunwch â ni i ddathlu Tymor y Pasg eleni - y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Pentecost. Fesul diwrnod, gan ddechrau heddiw cynigir awgrym o ddarlleniad Beiblaidd; portread o’r Atgyfodiad, a myfyrdod syml ar y wefan hon ac @MinnyStreet Yn y cyfarfodydd wythnosol (Ebrill 13/19/26 a Mai 3/10 am 7:30yh), cawn gyfle i drafod yn ehangach detholiad o’r portreadau rheini.
'Calvary' Craigie Aitchison (1926-2009); Capel Margaret Sant, Cadeirlan Truro, Cernyw
'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (1)
Diolch am fendithion y dydd - am gynhaliaeth yr oedfaon, a chymdeithas gynnes ein cyd-aelodau. Da heddiw oedd cael dathlu:
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
(‘O Farw’n Fyw’, Gwyn Thomas, ‘Symud y Lliwiau’, 1981. Gwasg Gee).