‘Calvary’ Craigie Aitchison (1926-2009)
‘Calvary’ Craigie Aitchison (1926-2009); Capel Margaret Sant, Cadeirlan Truro, Cernyw.
Pedwar llun, ac yn gefndir i’r pedwar mae cadernid mawr y mynydd:
Codaf fy llygaid tua’r mynyddoedd; o ble daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd,
creawdwr nefoedd a daear. (Salm 121:1,2 BCN)
Pedwar llun, dau leidr, y naill a’r llall yn llipa - wedi darfod mae’r ddau. Rhyngddynt, Iesu. Iesu croeshoeliedig, ond byw. Yn wahanol iawn i’r ddau leidr - mae iddo sylwedd, a ffurf. Sylla atom.
Yn y pedwerydd llun, coeden foel, syml; yn wyn fel mae Iesu a’r ddau leidr yn wyn. Mae’r goeden hon yn ddarlun o fuddugoliaeth Iesu. Y fuddugoliaeth honno yw gobaith y ddau leidr a ninnau: Er i’r goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni phaid ei changhennau â thyfu (Job 14:7).
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)