Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... Fi sydd yma go iawn! (Luc 24:39)
Hap a damwain o gyfarfyddiad. Caplan Carchar Caerdydd a Gweinidog Eglwys Minny Street. Fel rhan o'r sgwrs nodwyd bod gan garcharorion ffyrdd o fesur ei gilydd ac eraill; parodrwydd i ysgwyd llaw. Mae’r parodrwydd i wneud hyn yn arwydd o barch; wrth ysgwyd llaw cydnabyddir yr hyn sydd yn gyffredin rhwng dau berson: cnawd, asgwrn a chyhyr; dynoliaeth. Wrth beidio ysgwyd llaw amlygir yr arwahanrwydd, cadarnheir y gwahaniaethau a’r gwahaniaethu.
Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... (Luc 24:39); gweld beth yn union? ... myfi yw, myfi fy hun ... oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi. (Luc 24: 39) Wedi’r Atgyfodiad, methodd y disgyblion ag adnabod Iesu fel bod dynol, cig a gwaed: O achos eu dychryn a’u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd (Luc 24:37). Mae’r disgyblion yn gweld Iesu, heb weld Iesu o gwbl. Mewn dychryn ac ofn arswydant rhag y ‘non-Jesus’ hwn. ‘Non-Christian’: ymadrodd cyfarwydd ag sydd, wrth gwrs, yn medru bod yn gwbl gywir. Nid yw’r Mwslim yn Gristion, felly ‘non-Christian’ ydyw. Yr un modd yr Iddew. Onid oes well ffordd i sôn am y rheini sy’n credu’n wahanol i ni? Annibynwyr ydym, nid Anfedyddwyr! Eglwys Annibynnol yw Eglwys Minny Street nid Eglwys Anbresbyteraidd! Mae’r ymadrodd ‘non-Christian’ yn labeli person yn ôl yr hyn nad ydyw, yn hytrach na’r hyn ydyw. Onid cwbl unigryw pob person, onid yw pawb yn ddiwahân yn haeddu cael ei adnabod, a’i barchu, am yr hyn ydyw: ... myfi yw, myfi fy hun ... . Wrth sôn am bobl yn nhermau'r hyn nad ydynt, ymdriniwn â hwy fel ‘pethau’ nid ‘personau’. Hawdd llithro o ‘non-Christian’ i ‘non-person’.
Dychwelodd teithwyr Emaus i Jerwsalem; aethant ati i adrodd hanes eu taith, ac fel yr oeddent wedi adnabod Iesu ar doriad y bara. Wrth iddynt hel atgofion, ymddangosodd Iesu yn eu plith. Meddai: Tangnefedd i chwi (Luc 24: 36). Ei fwriad oedd peidio rhoi braw iddynt, ond O achos eu dychryn a’u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd (Luc 24:37). Aeth yn ei flaen: Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau? Gwelwch fy nwylo a’m traed; myfi yw, myfi fy hun. (Luc 24: 38-39) Estynnai amdanynt: ysgydwad llaw, coflaid, llaw a’r ysgwydd: Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi ... myfi yw, myfi fy hun. (Luc 24: 39) Iesu byw; yr hwn a fu farw, eto’n fyw. Nid ysbryd, drychiolaeth, ‘zombie’, ‘it’ nag an-Iesu: ... myfi yw, myfi fy hun. O Beibl.net: Fi sydd yma go iawn!
Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... One touch of nature makes the whole world kin (William Shakespeare, 1564-1616; Troilus and Cressida Act 3, Golygfa 3, 169-179). Beth am: One touch of Christ makes the whole world kin? Onid dyheu a wnawn ar i gymdogaeth, gwlad a byd gael eu gweddnewid gan gyffyrddiad y Crist byw. Buasai’r cyffyrddiad hwnnw yn troi pob ‘it’ yn ‘ti’. Cam bach sydd, wedyn, o ‘ti’ i ‘ni’. Byd, gwlad a chymdogaeth heb ddwrn, pastwn, gwn na bom. Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... myfi yw, myfi fy hun. Gwahoddir ni gan Grist i estyn i’r dieithryn y cyfle i fod yn gyfaill. Yn sgil y Pasg, estynnwn law i ddieithryn - beth bynnag bo natur y dieithrwch: Cyffyrddwch â mi a gwelwch ... Fi sydd yma go iawn!
Ehanga ‘mryd a gwared fi rhag culni o bob rhyw,
rho imi weld pob mab i ti yn frawd i mi, O! Dduw.
(E.A.Dingley, 1860-1948; cyf. Nantlais, 1874-1959. C.Ff. 805)