BYWYD ... BYW
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
... myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach (Ioan 10:10 WM)
Yn yr hen lynges Roegaidd ‘roedd rheol na châi'r un llong fynd i’r môr heb fod y criw yn cynnwys un nofiwr cryf a phrofiadol. Pe bai’r llong yn digwydd mynd ar y creigiau, swydd y brawd hwn oedd clymu rhaff am ei ganol, neidio i’r dŵr a nofio am y lan. Trwy ei ymdrechion ef byddai gobaith i weddill y criw gael eu hachub. Am ei fod yn berson mor bwysig, cafodd enw arbennig. Gelwid ef yn arloeswr neu ragredegydd - pioneer - yr un a oedd yn mynd ar y blaen i baratoi’r ffordd a’i gwneud yn ddiogel i’r lleill ei ddilyn.
Pan oedd y Cristnogion cynnar yn ceisio esbonio i’w cyfeillion ystyr y croeshoeliad a’r atgyfodiad, gwnaethant ddefnydd o’r darlun yma: Iesu, y nofiwr medrus a groesodd y lli rhwng byw a marw, rhwng y gweledig a’r anweledig, Trwy ei fuddugoliaeth ef dros angau fe’n hachubwyd ni. Ar Sul y Pasg cofiwn, dathlwn Iesu Grist yr arloeswr, yr un sydd yn achub am ei fod ef ei hun wedi ein rhagflaenu trwy waethaf y gwaethaf oll.
Mewn distawrwydd ystyriwch y cwestiwn isod:
Beth yw pwysigrwydd yr atgyfodiad yn eich tyb chi?
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae’n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dyn ni’n edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol (1 Pedr 1:3 beibl.net).
... Bendigedig fydd Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu oddi wrth y meirw (1 Pedr 1:3 BCN).
Nodwch eich ymateb ar ddarn papur, neu ystyriwch yn dawel cynnwys a neges y weddi hon:
Iesu atgyfodedig, diolchwn i ti
fod daioni yn gryfach na drygioni;
fod cariad yn gryfach na chasineb;
fod goleuni yn gryfach na thywyllwch;
fod bywyd yn gryfach na marwolaeth,
a bod buddugoliaeth yn eiddo i ni
drwy’r hwn sydd yn ein caru.
Desmond Tutu (gan.1931)
(OLlE)