Y tywyllwch ...
pan ddiffoddir golau’r haul a lleuad.
Tywyllwch ...
pan na fydd hyd yn oed llewyrch sêr yn gloywi’r gofod.
Tywyllwch
fel petai angau wedi symud dros y byd.
Duw ...
Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
Ni ad efe i’th droed lithro; ac ni huna dy geidwad.
Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.
Yr ARGLWYDD yw dy geidwad.
Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedra oddi wrthi.
I ble yr af oddi wrth dy ysbryd? I ba le y ffoaf o’th ŵydd.
Pe dywedwn, "Diau y tywyllwch a’m cuddiai", yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch.
Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
(Plethiad o Salm 121 a 139 WM)
N’ad im fodloni ar ryw rith
o grefydd, heb ei grym,
ond gwir adnabod Iesu Grist
yn fywyd annwyl im.
Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan
i ganlyn ar dy ôl;
na chaffwyf drigfa mewn unman
ond yn dy gynnes gôl.
Goleuni’r nef fo’n gymorth im,
i’m tywys yn y blaen;
rhag imi droi oddi ar y ffordd
bydd imi’n golofn dân.
(Dafydd Morris, 1744-91)
Y Darlleniadau
1. Genesis 1:1-2:2
'Creation' Justin R. Christenbery
Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. Galwodd Duw y goleuni yn ddydd a’r tywyllwch yn nos. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf. (Genesis 1:1-5)
Cyn tywyllwch, cyn golau, cyn popeth i gyd,
roedd Un wedi meddwl, yn galon i gyd,
y byddai’n mynd ati i greu yr holl fyd.
Ac yna, un diwrnod, dechreuodd y daith
o greu yr holl diroedd a’r moroedd maith;
ac yna wedyn, i orffen y gwaith,
Mewn gardd fe ddaeth Adda ac Efa i fod,
ac yno roedd blodau a chreaduriaid yn dod
yn lliwgar a hardd - i Dduw byddo’r clod.
(Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones
‘Beibl Odl y Plant’
2013; Cyhoeddiadau’r Gair)
Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn. A bu hwyr a bu bore, y chweched dydd. Felly gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear a’u holl luoedd. Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith. (Genesis 2:1,2)
2. Genesis 22:1-18
'Aberthu Isaac' - Michelangelo Merisi da Caravaggio (1571-1610)
Beth amser wedyn dyma Duw yn rhoi Abraham ar brawf. "Abraham!" meddai Duw. "Ie, dyma fi." atebodd Abraham. Ac meddai Duw wrtho, "Plîs, cymer dy fab Isaac - yr unig fab sydd gen ti, yr un rwyt ti’n ei garu - a dos i ardal Moreia. Yno dw i am i ti ei ladd a llosgi ei gorff yn offrwm ar un o’r mynyddoedd. Bydda i’n dangos i ti pa un." (Genesis 22: 1,2 beibl.net)
Datrys Duw, chwilio i eithaf Paham
y cread; dyna a roddwyd i rai,
ac yn eu plith Abraham.
Un a fu’n gwrando’r distawrwydd,
y tawelwch anfaterol,
a chlywed ynddo lais yr Arglwydd;
un felly ydoedd Abraham.
Hen ŵr, hen gnawd
wedi hir ymdeithio’r ddaear
un dydd, un dydd enbyd,
yn clywed y llais yn dywedyd,
"Cymer yr awr hon dy fab,
dy unig fab, yr hwn a hoffaist,
a dos i dir Moreia
ac ar un o’r mynyddoedd yno
yr hwn a ddywedaf wrthyt
offryma ef yn boeth offrwm."
Yn yr hanes ni ddywedir dim am y nos honno,
y tywyllwch hwnnw oedd y tu hwnt i eiriau,
ond nodir, "Ac Abraham a fore-gododd."
Gwnaeth y pethau hynny
y byddai dyn yn eu gwneud wrth gychwyn ar daith offrwm,
a dim ond efô a wyddai
ystyr dychrynllyd y cwbwl.
Cyfrwyodd ei asyn,
cymerodd ei ddau lanc gydag ef;
a’r mab, yr hwn a hoffodd.
Holltodd hefyd y coed, fel hollti ei einioes ...
Y trydydd dydd, ym Moreia,
Dyrchafodd Abraham ei lygaid
a gweld y lle,
y lle na allai ei anifail na llanciau ei dŷ
na neb, ond ef a’i fab, fynd iddo,
"Arhoswch chwi yma gyda’r asyn."
Coed ar gefn y mab;
tân, cyllell - honno yn ei law ei hun.
Tân a chyllell y gwybod hefyd yn ei galon
trwy’r dringo i’r lle hwnnw.
"Fy nhad," meddai’r mab -
lleiddiad hefyd - ond dywedodd,
"Wele fi, fy mab."
"Wele dân, fy nhad, wele goed
ond pa le mae yr oen?"
"Fy mab, Duw a edrych iddo’i hun
am oen yr offrwm."
A daethant i’r lle,
adeiladu allor, gosod y coed
yn araf, mewn trefn.
Ac yna,
yna gosod y mab,
ei rwymo wrth y coed,
edrych arno, ac estyn llaw
i gymryd y gyllell a lladd.
Yn y cyfyngder hwnnw
torrodd hen ddealltwriaeth dynion:
"Na wna ddim iddo."
Ac wele gariad yno,
yn hwrdd yn y drysni.
Datodwyd y mab, a datodwyd dyn
yn yr adnabod hwn:
"Y dyn, cadw di dy fab.
Dacw’r hwrdd yn y drysni;
Dacw Grist yn y berth."
Ac Abraham a alwodd y lle hwnnw
yn Jehofa-Jire,
sef, heddiw, fel y dywedir,
"Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir."
(‘Abraham ac Isaac’ gan Gwyn Thomas; ‘Croesi Traeth; 1978. Gwasg Gee)
3. Exodus 14:15,16; 19-22 (WM)
'Exodus' - Sieger Köder (1925-2015)
Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Paham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.
A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef; a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.
Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt.
Ac Efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i’r Isrealiaid, ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.
A Moses a estynnodd ei law ar y môr; yr ARGLWYDD a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
A meibion Israel, a aethant trwy ganol y môr ar dir sych; a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu dehau, ac o’r tu aswy.
4. Eseia 45: 2,3 (BCN)
Mi af o’th flaen di
i lefelu’r amddiffynfeydd;
torraf y dorau pres,
a dryllio’r barrau haearn.
Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,
wedi eu cronni mewn mannau dirgel,
er mwyn iti wybod mai myfi yw’r ARGLWYDD.
5. Eseciel 37:1-14 (BCN)
Gofynnodd imi, ‘Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?’ Atebais innau, ‘O! Arglwydd DDUW, ti sy’n gwybod.’ Dywedodd wrthyf, ‘Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, ‘Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD ... Wele, fe roddaf fi anadl ynoch.
Boed i’r ychydig adnodau hyn fod yn gyfrwng i ni ymdawelu a chofio’r adegau hynny pan aethom i deimlo’n ddigalon, a bywyd yn ddyffryn llawn o esgyrn sychion.
Efallai, bod bywyd i rywrai y gwyddom amdanynt yn ddyffryn o esgyrn sychion heno.
A’i dyffryn yn llawn esgyrn yw’r eglwys?
Mae sawl dyffryn yn llawn o esgyrn sychion yn y byd:
Dyffryn rhyfel a thrais
Dyffryn adfyd ac anobaith
Dyffryn newyn a syched
Dyffryn hiraeth a dolur
Dyffryn afiechyd a llesgedd
Dyffryn unigrwydd ac ofn.
... a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn...(Eseciel 37: 2a BCN)
Gofynnodd imi, ‘Fab dyn, a all yr esgyrn hyn fyw?’ Atebais innau, ‘O Arglwydd DDUW, ti sy’n gwybod.’ Dywedodd wrthyf, ‘Proffwyda wrth yr esgyrn hyn a dywed wrthynt, ‘Esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD...Wele, fe roddaf fi anadl ynoch, a byddwch fyw.’’
Boed i anadl nerth ac adfywiad, tangnefedd a chytgord, gwirionedd a gallu, diddanwch a chysur ymweld â ni, nhw, yr Eglwys fawr, a’r eglwys fach leol, a’r byd ben baladr i fywhau eneidiau, i feddiannu calonnau, i oleuo meddyliau, i rymuso ewyllys, ac i arwain pobl i fywyd; bywyd amgenach na fodoli - bywyd sydd yn ddawns o lawenydd.
6. Plethiad o Ioan 20:1-18 a ‘O Farw’n Fyw’ gan Gwyn Thomas (‘Symud y Lliwiau’, 1981. Gwasg Gee).
'Mair Magdalen yn yr ardd' - Anhysbys
Neb,
Does yna neb,
neb, neb all osgoi
y troi hwnnw i wynebu’r tywyllwch
y troi hwnnw i’r tywyllwch
sydd dros riniog y drws diwethaf,
tywyllwch anorchfygol
y mynediad terfynol.
Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
... datgloi angau a fu yno,
troi’r allwedd ym mhyrth marwolaeth
ac agor y tywyllwch.
Ond pa feidrolyn, yn y dyddhau hwnnw,
na fuasai, â’i amgyffred cnawdol,
yn meddwl mai dynion fu yno,
dynion yn ysbeilio?
Rhedodd, felly, nes dod at Simon Pedr a’r disgybl arall, yr un yr oedd Iesu yn ei garu. Ac meddai wrthynt, "Y maent wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, ac ni wyddom le y maent wedi ei roi i orwedd."
A’r ddau ddisgybl a aeth i’r bedd ...
Yr oedd popeth yno mewn trefn,
A’r ddau ddisgybl a ddaeth allan o’r bedd
yn llawn gorfoledd yr atgyfodiad.
Ond Mair oedd y tu allan yn wylo ...
A hi, drach ei chefn, a welodd un yn sefyll.
... gwelodd Iesu yn sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd. "Wraig," meddai Iesu wrthi, "pam yr wyt ti’n wylo? Pwy yr wyt yn ei geisio?" Gan feddwl mai’r garddwr ydoedd, dywedodd hithau wrtho, "Os mai ti, syr, a’i cymerodd ef, dywed wrthyf lle y rhoddaist ef i orwedd, ac fe’i cymeraf fi ef i’m gofal."
Yna dywedodd y dieithr hwnnw,
yr un oedd yno’n sefyll, "Mair".
Un gair, "Mair", a’r marw
a gyfododd yn fyw ...
Un gair a dorrodd ei hiraeth,
un gair a drywanodd ei holl amheuaeth,
un gair a ebilliodd trwy dywyllwch y farwolaeth
dynn oedd amdani fel maen du.
A hi esgynnodd o’r bedd.
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
Homili
Pam Oedfa Noswyl y Pasg? Mae’r Pasg yn digwydd liw nos. Nid gyda’r wawr, ond liw nos. Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd (Ioan 20:1 BCN).
Yn ôl Ioan felly, os i chi’n bwriadu dathlu’r Pasg gyda gwawr y bore, ‘rydych eisoes rhy hwyr. Mae’r wyrth wedi digwydd. Liw nos, cododd Iesu!
Yn y tywyllwch, liw nos, mae Iesu'n dychwelyd o farw’n fyw. Dychwelyd heb fod neb yn gweld - ni fu’r un llygad dyst i ryfeddod yr Atgyfodiad. Fe ddaw, gan fenthyg ei ddelwedd ei hun, fel lleidr yn y nos (Mathew 24:36-44). Yn Efengyl Ioan, ni cheir angylion parod eu hesboniad a’u cysur. Pan ddônt - ac fe ddônt hwythau hefyd, braidd yn hwyr - cwestiwn pigog, nid ateb cysurlawn sydd ganddynt i gynnig: ... plygodd Mair i edrych i mewn i’r bedd, a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle’r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a’r llall wrth y traed. Ac meddai’r rhain wrthi, "Wraig, pam yr wyt ti’n wylo?" (Ioan 20: 11-13 BCN). ‘Roedd Mair wedi disgwyl ... gobeithio ... gweld yno gorff, ond gwelodd wacter, hollt yn y tywyllwch.
Bu’r Pasg i mi erioed yn ffrwd o olau; prysurdeb capel; siocled, cinio dydd Sul mwy sylweddol nag arfer; dillad newydd a ‘Cododd Iesu!’ E. Cefni Jones (1871-1972), ond, yn ddiweddar daeth yr hen hen arfer o gadw Gwylnos y Pasg yn bwysig i mi. Mae ystyried y Pasg liw nos yn newid ein deall ohono.
Perthyn i’r Wylnos draddodiadol cyfres o ddarlleniadau - hyd at 13 o wahanol ddarlleniadau, y rhan fwyaf helaeth ohonynt yn dod o’r Hen Destament. Yr un peth sydd yn tynnu’r darlleniadau ynghyd yw’r nos; tywyllwch - a Duw ar waith yn y tywyllwch.
Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. Yr oedd y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder ...
Yn yr hanes ni ddywedir dim am y nos honno,
y tywyllwch hwnnw oedd y tu hwnt i eiriau,
ond nodir, "Ac Abraham a fore-gododd."
Gwnaeth y pethau hynny
y byddai dyn yn eu gwneud wrth gychwyn ar daith offrwm,
a dim ond efô a wyddai
ystyr dychrynllyd y cwbwl.
Cyfrwyodd ei asyn,
cymerodd ei ddau lanc gydag ef;
a’r mab, yr hwn a hoffodd.
Holltodd hefyd y coed, fel hollti ei einioes,
ac yna efe a gyfododd ac aeth.
Ac Efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i’r Isrealiaid, ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.
... a gwelais lawer iawn o esgyrn ar lawr y dyffryn ... Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau ...
Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
Yn Efengyl Ioan, hanfod Sul y Pasg yw pobl yn mynd a dod, yn ceisio deall arwyddocâd yr hyn mae Duw eisoes wedi gwneud, cyn toriad gwawr y bore. Liw nos bu Duw ar waith; ar fore’r Pasg mae pobl Dduw yn gweld nad diwrnod newydd mo’r heddiw newydd hwn, ond byd newydd. Liw nos, daw newid byd, ac fel y disgyblion gwreiddiol, mae disgyblion Iesu hyd heddiw yn mynd a dod, yn ceisio deall arwyddocâd rhyfeddol y rhyfedd ryfeddod hwn.
Yn od iawn, ac yn eironig braidd, Iddew, rabi bu’n gymorth i mi i gael gafael ar hyn. Tueddwn i feddwl fod y diwrnod newydd yn dechrau toc wedi hanner nos, neu gyda thoriad y wawr. Anghofiwyd gennym fod diwrnod y Beibl - diwrnod Iesu a’i bobl - yn dechrau gyda machlud haul. Wrth i bobl fynd i’w gorffwys, â Duw at ei waith. Mae’r Sabath Iddewig yn dechrau gyda machlud haul nos Wener, ac yn gorffen gyda machlud yr haul ddydd Sadwrn. Dwi’n gweld bo’ fi wedi methu’n llwyr i gyfleu gwefr hyn i chi! Gyda’r dydd yn dechrau gyda machlud haul, man cychwyn pob dydd yw tywyllwch, gorffwys, llonyddwch - ninnau’n segur a Duw ar waith. Dyma fel mynegodd Laura Janner-Klausner (gan. 1963) hyn o wirionedd, mewn un Thought for the Day ar Radio 4: The first part of the day passes in darkness ... but not in inactivity. God is out growing the crops even before the farmer is up and knitting together the wound before the clinic opens.
Arswydwn rhag y nos: yn y nos mae bwganod. Na, yn y nos mae Duw; liw nos mae Duw ar waith yn tynnu bywyd o afael marwolaeth yn ôl: Rhof iti drysorau o leoedd tywyll. Dyna pam, am wn i, mai buddiol yw dod yng nghyd i gadw Gwylnos y Pasg.
Dwi am orffen gyda geiriau Gwyn Thomas (gan. 1936), a Wendell Berry (gan. 1934):
To know the dark, go dark. Go without sight
and find that the dark, too blooms and sings.
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
‘Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’
yn Frawd a Phriod imi mwy;
ef yn Arweinydd, ef yn Ben,
i’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen.
Wel dyma un, O! dwedwch ble
y gwelir arall fel efe
a bery’n ffyddlon im o hyd
ymhob rhyw drallod yn y byd?
Pwy wrendy riddfan f’enaid gwan?
Pwy’m cwyd o’m holl ofidiau i’r lan?
Pwy garia ‘maich fel Brenin ne’?
Pwy gydymdeimla fel efe?
Wel ynddo ymffrostiaf innau mwy;
fy holl elynion, dwedwch, pwy
o’ch cewri cedyrn, mawr eu rhi’,
all glwyfo mwy f’Anwylyd I?
(William Williams, 1717-91)
Gweddi
Fe gafodd Uffern barti-dathlu bnawn Gwener d’wetha’.
Cuddiwyd yr haul mewn cywilydd, a daeth nos.
Boddwyd ein breuddwydion gan ddagrau’r siom.
Ciliodd bob gobaith-yfory-gwell.
Ni a feddyliwn mai hwn oedd yr un a waredai ...
Twyllwch.
Marwolaeth.
Gwacter.
Twyllwch.
Ond heno, treiglir y maen.
Heno, gwelir olau - goleuni anorchfygol.
Heno, clywir siffrwd bywyd newydd.
Heno, mae sawr gobaith yn yr awyr.
Heno, mae blas cariad ar y gwynt.
Heno, mae awel ffydd yn gynnes symud.
Tywyllwch
Bywyd.
Tywyllwch.
Un, daeth un yn ôl
dros riniog y tywyllwch;
daeth un yn ôl.
Dros ffin y cnawd marwol
y mae tystiolaeth, y mae
tystiolaeth fod yno oleuni sy’n anorchfygol.
Amen.
Gweddi’r Arglwydd
Y Fendith