AROS ... AROS
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a’r modd y gosodwyd ei gorff. Yna aethant yn eu holau i baratoi peraroglau ac eneiniau (Luc 23:55.56a BCN).
Mudandod.
Heddiw, fel teulu - fel pob teulu wedi marw anwylyd - mudan ydym. Ein byd i gyd ar gau.
Heddiw yw dydd yr aros.
Milwyr yn aros.
Disgyblion yn aros.
Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago yn aros.
Ti’n aros.
Fi’n aros.
Aros ... aros.
Mewn distawrwydd ystyriwch y cwestiwn isod:
A ydym yn credu y bydd i’r gronyn gwenith ddwyn llawer o ffrwyth?
Yn dawel meddyliwch dros eiriau Iesu:
... codwch eich calonnau, dw i wedi concro’r byd (Ioan 16:33b beibl.net).
... cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd (Ioan 16:33b WM).
Nodwch ar ddarn papur, neu meddyliwch yn ystyriol am boen aros; gwerth aros ... gwobr aros.
(OLlE)