Dr Fiona Gannon (Llun: www.annibynwyr.org)
Er ei fod yn ddi-fai, dioddefodd Iesu Grist o ganlyniad i sefyllfa wleidyddol dreisgar, meddai un o swyddogion Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei neges ar gyfer y Pasg.
“Teimlodd rym atgasedd, cafodd ei gyhuddo ar gam, ac fe’i hoeliwyd ar y groes fel gwrthryfelwr”, meddai Dr Fiona Gannon (yn y llun), sy’n Gadeirydd Cyngor yr Undeb. “Ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae pobl ddiniwed yn dal i gael eu lladd at ddibenion gwleidyddol, yng ngwlad Belg yn ogystal ag ar draws y Dwyrain Canol ac yng ngogledd Affrica.
“Ni all y sefyllfa hon newid nes bod pobl yn derbyn neges Iesu, sef mai cariad a maddeuant yw’r unig fodd i sicrhau heddwch a chymod parhaol”, meddai Dr Gannon.
“Os daw’r ddynoliaeth i weld hynny, bydd yn mynd trwy broses o atgyfodiad ac yn mwynhau’r math o fywyd y mae Duw, trwy Iesu Grist, yn dymuno i bob un ohonom ei gael.”