"Dros yr wythnosau diwethaf bu eglwysi Cymraeg Caerdydd yn rhannu myfyrdodau’r Grawys gyda’i gilydd. Braint heddiw, ar Ddydd Gwener y Groglith, yw cael eich croesawu i Eglwys Dewi Sant, wrth i ni gydgynnull wrth droed y groes a myfyrio ar ddioddefaint ein Harglwydd Iesu Grist."
Gyda'r geiriau hyn fe’n croesawyd, yn aelodau o wahanol eglwysi Cymraeg y brifddinas, i Eglwys Dewi Sant gan ei Ficer, y Parchedig Dyfrig Lloyd. Yn flynyddol, ceir bendith fawr o'r oedfa arbennig hon. Eleni, cynrychiolwyr o Eglwysi Ebeneser a’r Tabernacl oedd yn darllen o’r Hen Destament (Eseia 52: 13 - 53:12) a’r Testament Newydd (Hebreaid 10: 16-25), gyda Marian Lake o Eglwys Minny Street yn cyflwyno Efengyl y Dioddefaint (Ioan 18:33 - 19:11, 19:16-20, 25-30). Eglwys Dewi Sant oedd yn gyfrifol am yr ymbiliau. Canwyd anthem yn seiliedig ar Yr Edliwiadau o waith un o gyfansoddwyr Sbaeneg enwogaf yr 16eg Ganrif, Tomás Luis de Victoria (1548 - 1611) ynghyd ag emynau yn seiliedig ar y croesholiad. Y Pregethwr Gwadd oedd y Parchedig Gethin Rhys (Cytûn - Swyddog Polisi Cynulliad Cenedlaethol Cymru) wnaeth gymryd dwy adnod o’r darlleniadau yn sail i’w fyfyrdod: " ... fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw’r cneifiwr, felly nid agorai yntau ei enau" (Eseia 53:7b) ac o Efengyl y Dioddefaint, " ... a gofynnodd (Pilat) i’r Iesu, ‘O ble’r wyt ti’n dod?’ Ond ni roddodd Iesu ateb iddo" (Ioan 19:9)
Gan gydnabod gwerth a phwysigrwydd geiriau i’r rhan fwyaf ohonom. Mae geiriau yn medru ysbrydoli, mae geiriau yn medru gwahanu; mae geiriau yn medru codi pontydd ond mae geiriau hefyd yn medru tanseilio bywydau. Eto, anodd gennym ddychmygu byw heb eiriau. Ond mae’r Iesu yn dawel o flaen Pilat. Bu rhywfaint o sgwrs ynghynt yn yr hanes ond mewn ymateb i’r cwestiwn "O ble’r wyt ti’n dod?", mae’r Iesu yn dawel. Pam y tawelwch? Cynigiodd y pregethwr fod ateb cwestiwn Pilat yn rhy fawr ac yn rhy ddwfn i eiriau, hyd yn oed geiriau’r Iesu. Gan fynd ymlaen i nodi fod geiriau, er yn anhepgorol i fywyd bob dydd, yn medru bod yn beryglus ac yn dwyllodrus cawsom ein hatgoffa sut, o ystyried hanes defnyddio geiriau i geisio deall y croesholiad a’i arwyddocâd, mae’r geiriau a ddefnyddiwyd wedi creu rhaniadau; rhaniadau rhwng Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, rhwng Catholigion a Phrotestaniaid, rhwng Undodiaid a Thrindodwyr ... Pawb yn mynnu mai eu dehongliad hwy sy’n gywir. Mae llawer o dristwch wrth droed y groes ond y tristwch mwyaf yw i’r groes oedd fod uno pawb wedi rhannu Cristnogion - ac yn dal i wneud bob tro y mynnwn ddefnyddio geiriau o’i chwmpas. Felly, ond gwell yw peidio dweud dim? Nid am nad oes gennym ddim i’w ddweud. Nid am fod gennym gywilydd o’r groes. Ond am fod yr hyn a ddaeth a phawb at ei gilydd i’r oedfa heddiw yn rhy fawr ac yn rhy ddwfn i eiriau - hyd yn oed geiriau’r Iesu: "felly nid agorai yntau ei enau". A ninnau felly yn cael cyfle i fod yn dawel, yng nghwmni ein gilydd ac yn nirgelwch cariad oesol Duw.
Oedfa fendithiol; braint bu cyd-addoli a chyd-weddïo: "Wrth fyfyrio ar aberth ei groes, arwain ni i ddirgelwch ei ddioddefiadau, fel y gwelwn mai trwy aberthu y mae’n teyrnasu, trwy garu y mae’n gorchfygu, trwy ddioddef y mae’n achub, a thrwy farw y mae’n estyn i ni fywyd tragwyddol." (allan o Amser i Dduw: trysorfa o weddïau hen a newydd; gol. Elfed ap Nefydd Roberts; cyh..Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004)