‘Roedd Archesgob-Cardinal Paris yn dathlu’r Offeren; yn gwmni iddo: dau gyfaill; y naill a’r llall yn offeiriaid yng Nghadeirlan enwog Notre Dame.
Yn ei bregeth, cyfeiriodd y Cardinal at stori wir. ‘Roedd tri llanc ifanc wedi cytuno ymhlith ei gilydd i fynd i mewn i eglwys, am dipyn o hwyl, a mynd at yr offeiriad ar gyfer y Sagrafen o Gymod: cyffes yn y gyffesgell. Cytunodd y tri llanc y byddai pob un yn llunio rhestr o bechodau sylweddol i sôn amdanyn nhw.
Aeth y cyntaf i mewn a dweud, "Fy Nhad dwi ‘di dwyn o’r banc". Aeth yr ail i mewn a dweud "Dwi ‘di lladd rhywun". Pan ddaeth tro’r trydydd llanc, ceisiodd gadw wyneb syth a dweud, "Dwi ‘di dwyn o’r banc ac wedi lladd rhywun". Gan iawn a llawn sylweddoli beth oedd yn digwydd, dywedodd yr offeiriad wrth y trydydd llanc "Dyma dy benyd: dwi am i ti fynd a sefyll o flaen y groes fawr yn yr eglwys, a dwi am i ti ddweud y geiriau fydda i’n eu rhoi i ti. Dywed y geiriau dair gwaith a’u dweud mewn llais uchel."
Felly, daeth y llanc allan o’r gyffesgell, a chwerthin gyda’i gyfeillion. Aeth i’r blaen a sefyll o flaen y groes fawr - roedden nhw’n dal i chwerthin am yr hyn oedd wedi digwydd. Yna dywedodd y geiriau - yn dal fel testun hwyl - y geiriau a ddywedwyd wrtho am eu hadrodd gan yr offeiriad. "Iesu, buost farw drosof a does dim ots gen i". Yr ail waith, dywedodd y geiriau ychydig yn uwch. Y trydydd tro, sylweddolodd ei fod yn dweud y geiriau’n arafach a digwyddodd rhywbeth o’i fewn na allai egluro, a gwelodd fod y geiriau’n troi’n gwestiwn iddo ef ei hun "Iesu, buost farw drosof a does dim ots gen i (?)"
Aeth y Cardinal, oedd yn dweud y stori yn ei bregeth, ymlaen. Dywedodd wrth y bobl yn y gadeirlan "Dywedais wrthych fod y stori'n wir. Sut y gwn i? Mae’r ddau lanc o’r dyddiau gynt yn awr yn eistedd gyda fi fan yma - dyma’r ddau offeiriad sy’n dathlu’r Offeren gyda mi. Hefyd, gwn fod hyn yn wir oherwydd fi yw’r trydydd llanc. Fi oedd yr un oedd yn siarad o flaen y groes".
Yng ngoleuni'r stori, ystyriwch yn fyfyrgar y cwestiwn: "Iesu, buost farw drosof a does dim ots gen i?"
Iesu'n rhannu ein bywyd ... a dim ots gen i?
Iesu'n dwyn ein gofidiau ... a dim ots gen i?
Iesu'n dileu ein pechodau ... a dim ots gen i?
Arglwydd Iesu, mawrygaf dy enw am i ti ddod yn un â ni yn ein hangen; mawrygaf dy groes am i ti drwyddi ddileu ein pechodau a'n cymodi â'n Tad nefol; mawrygaf y fraint o'th gael yn waredwr ac yn gyfaill. Dy fywyd Di fo'n fywyd yn fy mywyd i. Amen.