EDRYCH ... GWELD
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
Fe achubodd eraill; ni ellir ei achub ei hun. Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo...(Mathew 27:41 BCN)
Crefydd wyrgam, a gwleidyddiaeth bwdr yn ennill y dydd.
Y naill gyda’r llall yn drech nag ef.
Gelynion cariad yn fuddugoliaethus.
Hoeliwyd Iesu i’w groes; a gwatwar yr ysgrifenyddion a’r henuriaid llawen fel libreto i fiwsig erchyll yr hoelion.
Iesu Emaniwel.
Iesu aeth heuwr allan i hau ..., yr oedd dyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho ...; yr oedd dyn a chanddo ddau fab ...
Iesu pum torth yn wledd, dau bysgodyn yn wyrth.
Iesu Gwyn eu byd ...
Iesu'r ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.
Iesu'r bugail a’r ddafad ar ei ysgwydd.
Iesu ... er coffa amdanaf ...
Hoeliwyd hwn i’w groes.
Sŵn yr hoelion.
I Galfaria trof fy wyneb ... Oes rhaid?
... ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt. (Sechareia 12:10a). Rhaid edrych. Edrych a dry fy nagrau’n ffrwd o hedd.
Mewn distawrwydd ystyriwch gwpled Samuel Taylor Coleridge (1772-1834):
Lovely was the death
Of him whose life was love.
Yn dawel meddyliwch dros eiriau Iesu:
Credwch chi fi, os nad ydy hedyn o wenith yn disgyn ar y ddaear a marw, bydd yn aros fel y mae, yn ddim ond hedyn bach. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau (Ioan 12:24 beibl.net).
Yn wir, yn wir, meddaf i chwi. Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig; eith os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth tragwyddol (Ioan 12:24 WM).
Nodwch ar ddarn papur, neu ystyriwch yn fyfyrgar beth yw neges bennaf y Groes yn eich tyb chi.
(OLlE)