CLEDDYF ... CWPAN
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
... meddai wrth ei ddisgyblion, ‘Eisteddwch yma tra byddaf fi’n mynd draw i weddïo.’ (26:26b)
Buont yng ngardd Gethsemane, gyda’i gilydd, troeon o’r blaen, ond y tro hwn ymneilltuodd Iesu oddi wrth y disgyblion. ‘Roedd ei frwydr yn un na fedrai neb arall ei gynorthwyo i’w hennill.
Daeth yn ôl at y disgyblion a’u cael hwy’n cysgu...(26:40a)
Y disgyblion yn cysgu yn sŵn ei frwydr fawr! Byddwn ofalus rhag ei beirniadu. Nid difaterwch barodd iddynt gysgu ond gofid: fe all gofid gadw person ar ddihun, ond fe all hefyd fod yn ddihangfa a fynnir gan y corff pan fo pryderon yn bygwth ei lethu’n lân. Gwyddai’r disgyblion yn iawn mor real y bygythiad; ond ni wyddant o gwbl, sut oedd ymateb i’r realiti hwnnw. Ein greddf naturiol, wyneb yn wyneb â bygythiad yw trais:
... dyma un o’r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu cleddyf ... (26:51a)
Gwyliwch, a gweddïwch...(26:41a) oedd yr anogaeth, ond taro, a thorri oedd ymateb Pedr. Cleddyf; cwpan - trin y cledd neu yfed o’r cwpan - dyna’r dewis o hyd. Mae codi cledd yn haws o dipyn na drachtio o’r cwpan. Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi (26:56b) ...
Mewn distawrwydd ystyriwch y cwestiwn isod:
Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi (26:56b) ...
A buaswn innau hefyd yn eu plith?
Yn dawel meddyliwch dros eiriau Iesu:
Mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid (Mathew 26:45b beibl.net).
... wele, y mae yr awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylaw pechaduriaid (Mathew 26:45b WM).
Nodwch ar ddarn papur, neu meddyliwch yn weddigar am y pethau sy’n peri i chi ddigalonni a thristau ... rhannwch hwy â Duw.
(OLlE)