CRAIG ... TYWOD
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
"Yr oeddit tithau hefyd gyda’r Nasaread, Iesu." Ond gwadodd ef a dweud, "Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti’n sôn..." (Marc 14:67-68 BCN)
Hawdd yw credu mai bwriad Pedr oedd bod rhywle o fewn golwg a chlyw i Iesu: i weld y diwedd meddai Mathew wrthym (26:58). Aeth i weld sut y dibennai pethau. Cofnod Marc a ddilynir i raddau helaeth gan Mathew; a phortreadir gweithred Pedr yn y lliwiau duaf - diau mai Pedr ei hun oedd yn gyfrifol am adrodd y stori wrth Marc. Er ei ddewrder naturiol, ei gariad at Iesu, a’i awydd didwyll i’w ddilyn, methodd â dal y prawf pan ddaeth hwnnw mor sydyn ac mewn modd na ddychmygasai amdano.
Mewn distawrwydd ystyriwch y gosodiad isod:
Haws yn aml yw cyflawni gweithred o arwriaeth fawr na bod yn ffyddlon mewn pethau bach.
Yn dawel meddyliwch dros eiriau Iesu:
A’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu. Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: "Byddi di wedi gwadu dy fod di’n nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu." Aeth allan yn beichio crio (Mathew 26:75 beibl.net).
A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost (Mathew 26:75 WM).
Nodwch ar ddarn papur, neu rhestrwch yn eich meddwl rhai o’r pethau - yn eich ymwneud ag eraill - sydd yn peri siom neu dristwch i chi. Rhannwch hwy â Duw.
(OLlE)