Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
'Cyfarchiad Gabriel' Jean Hey (1475-1505)
‘Bethsaida’: cyfle i drafod a dysgu am weddi; cyfnod i gyd-weddïo. Braf a buddiol bu’r gyfres hon; diolch amdani. Bu ein Gweinidog yn crynhoi heno, gan sôn yn benodol am dair deuawd.
Dyma’r cyntaf: Gweddïo a Gweddi. Awgrymodd mai peth achlysurol yw Gweddïo, ond fod Gweddi yn beth cyson. Gellid neilltuo cyfnodau; arfer gwahanol ddulliau, cyfryngau a strwythurau i Weddïo, ond mae’r gweddïo penodol ond yn bosibl ac yn ystyrlon oherwydd bod ein byw a’n bod yn weddi - cymundeb â Duw. Syniad poblogaidd am weddi yw ei bod yn debyg i ymbarél: gwell ei gadw wrth law, rhag ofn. Trwy gyfwng y cyfarfodydd hyn, daeth pwysigrwydd Gweddi: cymundeb beunydd beunos â Duw i’r amlwg. Mae’r Gweddïo yn fynegiant o’r Weddi.
Yr ail ddeuawd oedd Gweddi a Gwaith. Po fwyaf y gweddïwn, po fwyaf y dymunwn weddïo. Mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir. Po leiaf y gweddïwn, po leiaf y byddwn yn teimlo awydd i weddïo. Felly, mae elfen o ddisgyblaeth ar ein gweddïo, gan fod ein Gweddïo’n cynnal y Weddi - ein cymundeb â Duw.
Y ddeuawd olaf heno oedd: Gweddi a’r Ysbryd. Perffeithrwydd Gweddi yw gweddi’r Ysbryd. Beth bynnag yw ein gwendidau wrth Weddïo, y mae’r Ysbryd yn ein cynorthwyo. Canys, meddai Paul, ni wyddom beth a weddïom megis y dylem; eithr y mae’r Ysbryd ei Hun yn erfyn trosom ag ocheneidiau anhraethadwy (Rhufeiniaid 8:26). Fe dry'r Ysbryd ein Gweddïo yn Weddi - cymundeb â Duw. Felly, er mynnych ofidio am natur ein gweddïau - cynnwys, cysondeb, ansawdd ac yn y blaen yn ddiddiwedd, rhaid pwyso ar yr un gwirionedd allweddol hwn: mae’r Ysbryd yn eiriol trosom.
Yn Efengyl apocryffaidd Thomas, mae stori am Iesu’n blentyn yn Nasareth, yn rhoi bywyd mewn adar clai a wnâi ei ffrindiau wrth chwarae. Mae’r pennill bach isod yn crybwyll y stori.
O! na bai iddo wneuthur gwyrth
A throi fy ngweddi wyw
Megis y troes yr adar clai
A’u gwneud yn adar byw.
Y mae’r Ysbryd yn eiriol trosom, mae’r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni (beibl.net). Dyma’r bywyd sydd yn troi ein hadar clai yn adar byw.
Wedi trafod gweddi, aethom ati i weddïo. Echel ein gweddïau heno oedd ymateb Mair i gyfarchiad Gabriel: ... bydded i mi yn ôl dy air di.
Nodir o flwyddyn i flwyddyn Gŵyl y Cyfarchiad ar Fawrth y 25ain. Diben Gŵyl y Cyfarchiad yw nodi a dathlu: nodir ymweliad Gabriel â Mair, a dethlir ei pharodrwydd hithau i ymateb gan ddweud: bydded i mi yn ôl dy air di. Syrth Gŵyl y Cyfarchiad eleni ar Ddydd Gwener y Groglith (symudir yr Ŵyl felly ymlaen i ddydd Llun 4/4). Rhagfynegir Genedigaeth Iesu’n ar ddydd ei farw. Felly, yn ein cyfnod o weddi heno, plethwyd ynghyd llonyddwch, geiriau Iesu ac ufudd-dod Mair.
Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. Yr wyf yn gadael i chi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. (Mt 11:28 ac Ioan 14:27)
... bydded i mi yn ôl dy air di.
Yn ôl eich ffydd boed i chwi. A wyt ti’n dymuno cael dy wella? Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd. ... maddeuwyd dy bechodau ... glanhaer di, dos mewn tangnefedd. (Mt 9:29; Ioan 11:44; Mc 2:5; 1:41 a 5:34)
... bydded i mi yn ôl dy air di.
Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, yr wyf yn eich galw’n gyfeillion. Carwch eich gilydd. Fel y cerais i chi, felly ydych chwithau i garu’ch gilydd. Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yw wyf yno yn eu canol. (Ioan 15:15; 13:34 a Mt 18:20)
... bydded i mi yn ôl dy air di.
... fe ofynnaf finnau i’m Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth. (Ioan 14:16)
... bydded i mi yn ôl dy air di.
Myfi yw’r winwydden; chwi yw’r canghennau. Y mae’r hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo ef, yn dwyn lawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i bobl gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder. (Ioan 15:5 a 10:10)
... bydded i mi yn ôl dy air di.
Bu 'Bethsaida' eto'n fendith.