BRAD ... BARA
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, "Yr un a gusanaf yw’r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel." (Marc 14:44 BCN)
Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Arglwydd Iesu y nos y bradychwyd ef gymryd bara...(1 Corinthiaid 11:23 WM).
Yn ôl Paul, amod gweld gorau'r noson honno yw cofio'r gwaethaf: amod cofio'n iawn yw cofio'r brad. Rhaid cofio i'r Arglwydd Iesu y nos y bradychwyd ef gymryd bara.
Y noson honno, 'roedd dau brif gymeriad yn y ddrama - Iesu a Jwdas. Camgymeriad buasai canolbwyntio'n sylw ar Jwdas ac anghofio'r Iesu; ond ni ddylid chwaith ganolbwyntio ar Iesu ac anghofio Jwdas. Rhaid ystyried y brad a'r bara.
Clywch Paul yn datgan neges fawr y brad a’r bara: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras...(Rhufeiniad 5:20b WM).
Er gwaethaf brad...bara.
Er gwaethaf casineb...cariad.
Er gwaethaf y tywyllwch...goleuni.
Er gwaethaf brad Jwdas, a phob Jwdas ar ei ôl...bara.
Bara ar waethaf brad yw'r bara mae Iesu yn ei dorri ac yn cynnig i ni, a hynny am mai Efe Ei hun yw'r bara: bara'r bywyd.
Mewn distawrwydd ystyriwch y cwestiwn isod:
Ym mha fodd y gellir bradychu Iesu o hyd?
Nodwch ar ddarn papur, neu rhestrwch yn eich meddwl mudiadau, sefydliadau ac elusennau - lleol a byd-eang - sydd ar waith ymhlith pobl newynog ac anghenus.
(OLlE)