CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

... gwedy elwch tawelwch vu ...

Gan ymddiheuro i'r bardd Aneirin, cystal cyfaddef mai profiad felly oedd ‘Capernaum’ heno. Wedi elwch PIMS tawelwch vu. Tawelwch, a drodd yn llonyddwch: defosiwn, gweddi a myfyrdod ar derfyn dydd.

Y Weddi yn Gethsemane (Mathew 26:36-46) oedd testun ein sylw heno. Gweddïo’n feunyddiol - yn gyson - a gweddïo ar adegau tyngedfennol oedd arfer Iesu trwy gydol ei weinidogaeth.

Wrth gofio’i riddfannau’n yr ardd (Thomas Lewis, 1760-1842; CFf.:519) mae’n rhaid bod yn ddefosiynol-dawel oherwydd ‘rydym yn clustfeinio ar weddi bersonol Iesu, a’r weddi bersonol honno’n codi o ddyfnder calon ei ofid ac ofn. Abba! Dad! meddai. Nid Ein Tad bellach, ond Fy Nhad, a hynny deirgwaith (26:39; 42 a 44). Fy Nhad, os yw’n bosibl, boed i’r cwpan hwn fynd heibio i mi ... Yn yr Hen Destament gallasai ‘Cwpan’ dynodi bendith Duw: y mae fy nghwpan yn llawn (Salm 23:5b; gweler hefyd Salm 16:5 a 75:8), ond ymhlith y proffwydi, delwedd negyddol ar y cyfan yw ‘Cwpan’. Soniai Eseia am gwpan llid yr ARGLWYDD Dduw (51:17); mae Eseciel yn sôn am gwpan dinistr ac anobaith (23:33) ac i Jeremeia mae ‘Cwpan’ yn ddarlun o farn Duw (49:12). Trosiad am y Groes yw’r ‘Cwpan’ yng ngweddi Gethsemane. Cosb greulonaf yr hen fyd ar gyfer y troseddwyr gwaethaf oedd croeshoeliad, ac ‘roedd ar Iesu ofn yr artaith a’r boen.

Awgrymir serch hynny nad ofn y boen a’r dioddef oedd y pennaf yn ei feddwl, ond ofn ein gwaethaf ni fel pobl. Arswydai Iesu rhag gweld a phrofi pechod y ddynoliaeth yn disgyn i’w nadir eithaf, gwaethaf, creulonaf. Dyna yw’r Groes - yr amlygiad cliriaf a phennaf o’r anrhefn sydd ynom fel pobl. Ond, mae’r Groes hefyd yn amlygiad clir a phendant o gariad gwaredol Duw cariad yw.

... pa dafod all dewi am hyn?

Pa galon mor galed na thodd?

(Thomas Lewis, 1760-1842; CFf.:519)

... ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di (Mathew 26:39).

Cylch oedd bywyd Iesu - cylch ag iddo ganolbwynt: Myfi a’r Tad, un ydym (Ioan 10:30). Ond elips yw siâp ein bywyd ni. Elips y mae iddo ddau ffocws - ewyllys Duw a’r ewyllys personol, hunanol. Po bellaf oddi wrth ei gilydd yw’r ddau ffocws, lleiaf tebyg i gylch yw’r elips. Po agosaf at ei gilydd y dônt, mwyaf tebyg i gylch yw elips ein byw. Fe wyddai Paul am y dynfa rhwng y ddau ffocws: Canys ni wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur (Rhufeiniad 7:19 WM). Yn ei bregeth nos Sul (20/3) bu’r Parchedig Densil Morgan yn sôn am bwysigrwydd tröedigaeth. O dderbyn mai elips yw siâp ein byw, gwyddom nad gwaith un foment yw’r troi hwn at Grist ond gwaith beunydd, beunos nes dod i’r fan lle cyffeswn gyda Paul: ... eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi ... (Galatiaid 2:20 WM).

Buddiol ‘Capernaum’ heno. Wedi elwch prysurdeb y dydd, cawsom, yng nghwmni’n gilydd gyfle i ganfod o’r newydd tawelwch yr hedd na ŵyr y byd amdano. (Elfed,1860-1953)