Thema'r mis yw '7', ac o'r herwydd bu Owain, Geraint, Hefin a ... Gruff (croeso calon iddo yn ôl i'n plith, ag yntau wedi dychwelyd o'r brifysgol - gwych iawn oedd cael ei gwmni) yn arwain y PIMSwyr trwy saith diwrnod yr Wythnos Fawr. Paratowyd taflen gan y Gweinidog - taflen llawn posau a thasgu; un i bob dydd.
Dyma, er enghraifft, tasg Sul y Blodau, a phos Dydd Gwener y Groglith:
Y prif fwynhad oedd rhannu bara a gwin i gofio Nos Iau Cablyd ...
Yn gylch o 13: rhannu bara a gwin
... a llonyddwch Sadwrn y Pasg. Bu'n rhaid iddynt liwio, mewn perffaith dawelwch, heb na siffrwd na phiffian chwerthin, ac er mawr syndod ... llwyddasant!
Llonyddwch lliwio Sadwrn y Pasg
Noson fuddiol a da yn gorffen gyda donuts, ond pam, mynnai rhai nad oedd gennym fyns y grog!? Wel wir! 'Does dim plesio rhai!