BARA ... GWIN
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd fara, ac wedi bendithio fe’i torrodd a’i roi iddynt, a dywedodd, "Cymerwch; hwn yw fy nghorff." A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddynt, ac yfodd pawb ohono. A dywedodd wrthynt, "Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, sy’n cael ei dywallt er mwyn llawer," (Marc 14:22-24 BCN)
Cyhoeddi natur ei ddyfodiad fel Gwaredwr wnâi’r marchogaeth ar ebol; mynegi natur ei ymadawiad wnâi’r torri bara a’r tywallt gwin. Derbyn croeso tyrfa; ffarwelio â chyfeillion.
Mewn distawrwydd ystyriwch y cwestiwn isod:
Beth yw dylanwad Oedfa Gymun arnoch?
Yn dawel meddyliwch dros eiriau Iesu:
Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw a dweud, ‘Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae cael ei dywallt ar ran llawer o bobl i faddau eu pechodau nhw. (Mathew 26:27 beibl.net)
Ac wedi iddi gymeryd y cwpan, a diolch, efe a’i roddes iddynt gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau (Mathew 26:27 WM)
Nodwch ar ddarn papur, neu rhestrwch yn eich meddwl - gan ddechrau gyda chi’ch hunan - pobl y buasech yn dymuno iddynt gael profi’r maddeuant sy’n dileu pob camwedd a bai.
(OLlE)