Ein cennad heddiw oedd y Parchedig Ddr. Noel Davies. Gwiw gennym ei groesawu o'r newydd atom i arwain ein haddoliad. Mae Noel yn gyfarwydd i nifer ohonom - a ninnau yn gyfarwydd iddo yntau - gan ei fod wedi bod yn arwain ein hoedfaon nifer o weithiau. Bu yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn am gyfnod, ac mae wedi dal nifer o swyddi o fewn Undeb yr Annibynwyr. Pan oedd gyda ni y tro diwethaf, buom yn ei longyfarch ar dderbyn gradd mewn gwyddoniaeth. Yn amlwg, cafodd flas ar ei astudiaethau! Mae Noel bellach, yn dilyn cwrs meistr trwy ymchwil, gan wneud ei waith ymchwil ar gelloedd bonyn.
Ond, beth yw hyn? Mae Noel yn newid trefn y gwasanaeth? Cawsom ein hannog i sefyll wrth i floeddiadau o "Hosanna" a "Haleliwia" ddod o’r cyntedd! Ymhen ychydig daeth drŵp o blant a phlantos ymlaen gan chwifio dail palmwydd (wel, dail planhigyn castor oil oeddent i fod yn fanwl gywir!) a rhannu croesau palmwydd yn ein plith, a phawb wedyn, yn uno i ganu hyfryd eiriau Elfed (1860-1953):
Pwy sy’n dod i Salem dref?
Iesu’n Llywydd:
taenwn ar ei lwybrau ef
gangau’r palmwydd;
rhoddwn iddo barch a chlod
mewn Hosanna;
atom ni mae heddiw’n dod
Haleliwia!
(CFf.:360)
Un o’r PIMSwyr newydd, ffyddlonaf oedd yn arwain y defosiwn heddiw: Ifan. Daeth ei ddarlleniad o Efengyl Marc: hanes yr ymdaith fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem o beibl.net. Rhaid cofnodi ei weddi gymen bwysig:
Diolch, Iesu, am farw trosom
ac am atgyfodi ar y trydydd dydd.
Boed i'r hanes hwn ein harwain i ffydd ynot ti,
i obaith am ein dyfodol
ac i gariad tuag at eraill o’n cwmpas.
Parhawyd gyda threfn ychydig yn wahanol wrth i sgwrs y plant ddod cyn yr adnodau! Gan gyfeirio at ddarlleniad Ifan, cawsom ein hatgoffa gan Noel o’r modd y croesawyd Iesu i Jerwsalem: pobl yn taenu mentyll a dail palmwydd o’i flaen. Petai’r frenhines yn ymweld â Minny Street sut fuasai hi’n cyrraedd tybed? Dyma ambell un o awgrymiadau’r plant: limousine, coets grand a phedwar neu ragor o geffylau yn ei thynnu, neu hofrennydd! Daeth yr Iesu nid mewn limousine, na choets na hofrennydd ond ar gefn ebol asyn. Daeth Iesu, nid fel brenin pwysig, grymus a rhwysgfawr ond yn ostyngedig.
Derbyniwyd adnodau’r plant: Myfi yw bara’r bywyd; Gwyn ei byd y rhai pur o galon canys hwy a welant Dduw; Duw cariad yw x 5; Ymddiried yn llwyr yn yr Arglwydd a phaid â dibynnu ar dy allu dy hun; Daliwch ati i weddïo … ac yn uchafbwynt Osian bach yn cyhoeddi mewn llais uchel: Hosanna! Bendigedig yw’r hwn sy’n dod yn enw’r Arglwydd!
Daeth yn amser i’r plant fynd allan i’r Festri at eu gwersi. Buont hwythau yn ymdrin â neges Sul y Blodau. Cawsom gan Noel bregethu meddylgar a phregeth werthfawr. Thema’r bregeth oedd ‘Crist y Brenin’ a hynny’n seiliedig ar y teitl a osododd Pilat uwchben croes Iesu: Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon (Ioan 19:19). Ar gychwyn yr oedfa clywsom gyfarchiad y plant: Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig fyddo Iesu! Fedrwn ni ddal i gyfarch Iesu fel brenin heddiw? Beth mae’n ei olygu i gyffesu Iesu’n frenin o hyd? Ceisiwyd darganfod atebion drwy ofyn tri chwestiwn arall:
1. Pwy yw’r Iesu sy’n frenin? Iesu o Nasareth ydyw ond y mae’r teitl uwchben croes. Iesu ar groes yw’r brenin heddiw fel erioed: yr un bregus, clwyfedig a di-rym.
2. Ymhle mae Iesu’n frenin? Brenin yr hollfyd yw hwn. Un o eiriau mawr Efengyl Ioan yw ‘cosmos’ (‘Carodd Duw y byd [cosmos])’. Nid oes unman yn ein byd cyfoes (na’r bydysawd, yn wir) lle nad yw Iesu’n frenin. Mae Iesu'n herio pob grym ac awdurdod.
3. Ymhlith pwy y mae Iesu’n frenin? ‘Ymhlith pawb’ yw’r ateb, p’un ai ydynt yn gwybod hynny ai peidio. Ond mae’n frenin mewn cariad ac nid mewn creulondeb, mewn gostyngeiddrwydd ac nid mewn grym.
Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
yn aelwyd gyfannedd i fyw …
Yn frodyr (a chwiorydd) i’n gilydd, drigolion y gwledydd,
cawn rodio yn hafddydd y nef.
(Jane Ellis, bl.1840 CFf.472)
Ein braint heno oedd ymuno yng Ngŵyl bregethu'r Tabernacl. Pregethwyd gan y Parchedig Densil Morgan, (Llanbedr Pont Steffan) Echel y bregeth oedd Actau 11:26: Am flwyddyn gyfan cawsant gyd-ymgynnull gyda'r eglwys a dysgu cryn dyrfa; ac yn Antiochia y cafodd y disgyblion yr enw Cristnogion gyntaf. Beth sydd mewn enw? What's in a name? That which we call a rose/ By any other name would smell as sweet. (Romeo and Juliet II, ii, 1-2 William Shakespeare 1564-1616). Beth yw Cristion? Awgrymwyd tri phen:
1) Amrywiol yw Cristnogion - amrywiol o ran cefndir a diwylliant. Amrywiol, ond unedig; un yng Nghrist.
2) Tröedigion yw Cristnogion - troesom o'n pechod at Grist. Aeth y gair 'tröedigaeth' yn air dieithr yn ein plith, ond 'does neb yn Gristion heb iddo 'droi' at Grist.
3) Cymdeithas yw Cristnogion. Crefydd bersonol? Ar bob cyfrif; ond un peth yw personol, peth arall yw preifat. Nid oes y fath beth yn bod â chrefydd breifat yn y Testament Newydd. Pobl Cymdeithas yr Ysbryd Glân ydym. Dyma'r Gymdeithas y cawn yr uchelfraint o berthyn iddi
Hyfrydwch yw cael y cyfle hwn i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i weinidog, diaconiaid ac aelodau’r Tabernacl yn eu gweinidogaeth. Edrychwn ymlaen at Oedfa’r Groglith (25/3) a gynhelir, dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd, yn Eglwys Dewi Sant; pregethir gan y Parchedig Gethin Rhys. Gweddïwn am wenau Duw ar y cennad a’r oedfa.
Nodir y Grawys eleni trwy gyfrwng cynllun ‘Solvitur ambulando’. Diolch i bawb sydd wedi mentro’r cynllun. Mae amryw yn cael hwyl ar y Via Dolorosa. 88 milltir dros 40 diwrnod. 2.2 milltir bob dydd. Dau wedi mentro Jerwsalem i Damascus. 150 milltir dros 40 diwrnod. 3.75 milltir y dydd. Un arall wedi dewis her yr Exodus. 375 milltir dros 40 diwrnod.
Oherwydd cyfuniad o wahanol resymau/digwyddiadau, NI chynhelir yr Oedfa Nos Iau Cablyd, ond cynhelir Gwylnos y Pasg nos Sadwrn (26/3; 23:30 yn y Festri): oedfa syml dan arweiniad ein Gweinidog, ychydig dros hanner awr, i gynnwys darlleniadau, gweddïau a homili.
Awydd egwyl feunyddiol o ddefosiwn yn ystod yr Wythnos Fawr hon? Gan ddechrau heddiw, ceir delwedd, adnod, myfyrdod a gweddi ar y wefan hon, yn gymorth i’n defosiwn o ddydd i ddydd.
Mae deugain diwrnod y Grawys yn arwain, nid at Sul y Pasg, ond yn hytrach at Dymor y Pasg. Ymunwch â ni i ddathlu Tymor y Pasg eleni - y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Pentecost. Fesul diwrnod cynigir awgrym o ddarlleniad Beiblaidd; portread o’r Atgyfodiad, a myfyrdod syml ar y wefan hon ac @MinnyStreet Yn y cyfarfodydd wythnosol (Ebrill 13/19/26 a Mai 3/10 am 7:30yh), cawn gyfle i drafod yn ehangach detholiad o’r portreadau rheini.
Mae’r Duccio di Buoninsegna (m.1319) yn gadael drws ar agor ym mur Jerwsalem i ni gael cymryd ein lle, a bod â rhan yr Ymdaith Fuddugoliaethus. Dyna’n union a wnaethom heddiw. Diolch am fendithion y Sul.