HEDDWCH ... TANGNEFEDD
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
Daethant â’r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn... (Marc 11:7 BCN)
Anifail heddwch oedd yr ebol a wrthgyferbynnid a’r march fel anifail rhyfel. Ni ddaeth Iesu i’r frenhiniaeth drwy fyddin a chledd. Yn hytrach, daeth ar ebol asyn, gyda chwmni o gyfeillion a thyrfa ddi-arf. Nid dod felly o raid! Felly y mynnodd ac a threfnodd.
Mewn distawrwydd ystyriwch y cwestiwn isod:
Ym mha ystyr mae Iesu’n Dywysog Tangnefedd?
Yn dawel meddyliwch dros eiriau Iesu:
Heddwch - dyna dw i’n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i’w roi. (Ioan 14:27 beibl.net)
Yr wyf yn gadael i chi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi ... (Ioan 14:27 WM)
Nodwch ar ddarn papur, neu rhestrwch yn eich meddwl pobl a chymunedau - lleol a byd-eang - sydd yn dioddef yn sgil rhyfel a therfysg heddiw.
(OLlE)