Mae trwch ohonom bellach - aelodau eglwysi Anghydffurfiol - yn nodi, os nad ceisio cadw, deugain Diwrnod y Grawys. Da hynny; buddiol a bendithlawn ydyw.
Anghofir gennym fod deugain diwrnod y Grawys yn arwain, nid at Sul y Pasg, ond yn hytrach at Dymor y Pasg - y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Pentecost.
Ein tueddiad, fel aelodau eglwysi Anghydffurfiol, yw cadw'r Grawys er mwyn ymbaratoi i'r Pasg. Yna, ar Sul y Pasg - yn naturiol ddigon - dathlwn ac yn aml, yn gwbl briodol, ceir sbloets fawr gwych o ddathliad y Sul hwnnw, ac wedyn ...
Wel! … wedyn ... awn rhagom â gwaith a bywyd arferol yr eglwys, gan roi'r argraff fod y Pasg, bellach, trosodd am flwyddyn arall!
Wedi dewis nodi'r Grawys; wedi'r holl ymdrech i gadw'r Grawys, anghofir diben y Grawys, sef arwain ar ddeugain a deg diwrnod y Pasg.
Mi wn yn iawn bydd rhywrai wrth ddarllen y sylwadau hyn yn twt-twtian y fath siarad coeg-Eglwysig am 'Dymor y Pasg'! Onid yw gweinidog Eglwys Minny Street, Caerdydd yn sylweddoli fod pob Sul yn Sul y Pasg i Anghydffurfwyr? Dethlir y Pasg bob wythnos gennym!
Rhaid ymateb yn syml, a phlaen! Cydnabyddaf fod yr uchod yn gwbl gywir yn ddiwinyddol, ond mae rheidrwydd arnom i gydnabod na adlewyrchir y gwirionedd diwinyddol hwn yn ein haddoliad anghydffurfiol o Sul i Sul! Credaf mai buddiol yw her y Grawys; credaf hefyd mai bendithlawn yw tymor o ddathlu'r Pasg.
Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg. Gwahoddir ni, ar ddydd Mercher y Lludw, i gadw deugain diwrnod y Grawys i ymbaratoi i'r Pasg. Gwahoddir ni ar Sul y Pasg i gadw deugain diwrnod a deg i ddathlu'r Pasg. Cododd Iesu! Go brin fod deugain a deg diwrnod yn ddigon i iawn a llawn ystyried canlyniadau a goblygiadau anferthedd anferthol y ddau air hyn, ond awgrymaf fod deugain a deg yn well, llawer gwell, na dim ond un!