Undeb Llanuwchllyn 30/6 - 2/7. Eglwys Yr Hen Gapel, mewn cydweithrediad â Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a’r Cylch sydd yn croesawu prifwyl yr enwad eleni. Diolch i Swyddogion y Pwyllgorau Lleol, a Swyddogion Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am eu gwaith yn paratoi ar ein cyfer.
Mae’r Undeb yn gyfle i ddangos fod cydwybod gymdeithasol yr enwad mor effro ag erioed. Nodir yn Rhaglen y Cyfarfodydd Blynyddol tri phenderfyniad
- Budd daliadau Pobl Sâl ac Anabl.
- Annog Eglwysi i Ail-ymuno a'r Undeb
- Cefnogi Busnesau Lleol
Prynhawn heddiw, ceir cyfle i wrando Argraffiadau’r Llywyd, y Parchedig Ddr R. Alun Evans; Adroddiadau’r Ysgrifennydd Gweinyddol a Chyffredinol a derbyn Cynrychiolwyr Cyfundeb a thraddodiadau eglwysig eraill. Liw nos, mwynhau bendith y Cyflwyniad gan aelodau a chyfeillion Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a’r Cylch. Ynghyd â bod yn llwyfan i lunio polisïau mae’r Undeb hefyd yn ysbrydiaeth i’r eglwysi.
Gweddïwn am wenau Duw ar y cynadledda; Duw a fo’n blaid i’r Parchedig Jeffrey Williams wrth iddo bregethu yn yr Oedfa Fawl nos Wener, ac i Mr D. Glyn Williams, ein Llywydd newydd, wrth iddo draddodi ei anerchiad yn Oedfa’r Llywydd prynhawn Sadwrn.
O ystyried y cyfrifoldeb sydd ynglŷn â chynnal prifwyl yr enwad, mae pobl Llanuwchllyn a’r Cylch i’w canmol am drefnu'r cyfan â’r fath raen.
Arglwydd, dyro dy fendith ar Gyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fel y byddo i Ti ein harwain i gariad teyrngar, ac ufudd-dod daionus. Amen.