Yn Ffrainc yn 1824 ganed Charles Blondin (m. 1897). Yn bump oed, ‘roedd y mymryn bach hwnnw’n acrobat rhyfeddol iawn, a daeth yn arbenigwr ar gerdded rhaff dynn dros agendor. Pinacl ei gamp, pan oedd yn bymtheg ar hugain oed, oedd cerdded rhaff dros ferw’r Niagara fawr.
Dychmygwch y dyn bach, mentrus hwn yn fanwl bwyllog basio un troed heibio’r llall, gan wrth-siglo’i gorff i ddal cydbwysedd. Y dyrfa’n llonydd gan gyffro - ac yna’r ymollwng - wrth weld Blondin yn cyrraedd yr ochr draw yn ddiogel. Canmol brwd, hir a theilwng.
Ond ‘roedd un dyn bach yn y dyrfa wedi colli arno’i hun yn llwyr, ac meddai’n frwd: ‘Blondin, ti’n anhygoel! Clyw! Mi fedri di gerdded y rhaff dros y Niagra â whilber o dy flaen pe bai ti’n dymuno!’
‘Whilber!?’ Meddai Blondin, ‘... cerdded y rhaff dros y Niagara â whilber o’m mlaen? Ti o ddifri’n credu y galla’i?’
‘Medri!’ Meddai’r brwd yn bendant.
‘Reit’, meddai Blondin, ‘Ddoi di gyda mi yn y whilber?’
Os ydym am dderbyn cynhaliaeth ein ffydd, bydd rhaid i ni fynd i eistedd yn whilber Duw.
(OLlE)