Dyma nhw'n gofyn i Esra'r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi ei roi i bobl Israel. Felly ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis dyma Esra'r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i'r gynulleidfa oedd yno - yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. Bu'n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o'r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando'n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud. Roedd Esra'n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi ei godi'n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith. Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma'r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma'r bobl yn ateb, "Amen! Amen!" a chodi eu dwylo. Yna dyma nhw'n plygu'n isel i addoli'r ARGLWYDD, a'i hwynebau ar lawr. Tra roedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu'r Gyfraith iddyn nhw - Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamin, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. Roedden nhw'n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen. Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, "Mae heddiw'n ddiwrnod wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrïo. Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist - bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!" Yna dyma'r Lefiaid yn tawelu'r bobl, a dweud, "Ust! Stopiwch grïo. Mae heddiw'n ddiwrnod cysegredig." Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen - achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.
(Nehemeia 8:1-11 beibl.net)
Deallodd Nehemeia ac Esra fod ar bobl angen Gair Duw. Felly, mae Esra’n darllen y Gair yn gyhoeddus yng ngwydd pobl y ddinas.
Mae’n Air i Bawb; mae’n Air y gellid ei ddeall ac mae’n Air sy’n dwyn ei ganlyniadau.
Mae’r Gair pan y’i cyhoeddir yn esgor ar Edifeirwch: ... canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith (Nehemeia 8:9 WM). Mae’r Gair yn peri i ni weld ein hunain fel ag yr ydym. Naturiol felly ein bod yn wylo ac edifarhau; ond ni ddylem aros felly, gan fod y Gair yn esgor hefyd ar Lawenydd: ... na alarwch, ac na wylwch ... Ewch bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd; am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi (Nehemeia 8:9,10 WM). Mae Gair Duw yn newid pobl - yn eu goleuo ac yn llanw eu byw â gorfoledd!
Felly, os yw dyn yng Nghrist, y mae’n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae’r newydd yma. Ond gwaith Duw yw’r cyfan - Duw, yr hwn sydd wedi cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod (2 Corinthiaid 5:17,18).
(OLlE)