Dyma nhw'n gofyn i Esra'r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi ei roi i bobl Israel. Felly ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis dyma Esra'r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i'r gynulleidfa oedd yno - yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. Bu'n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o'r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando'n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud. Roedd Esra'n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi ei godi'n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith. Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma'r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma'r bobl yn ateb, "Amen! Amen!" a chodi eu dwylo. Yna dyma nhw'n plygu'n isel i addoli'r ARGLWYDD, a'i hwynebau ar lawr. Tra roedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu'r Gyfraith iddyn nhw - Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamin, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. Roedden nhw'n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen. Roedd y bobl wedi dechrau crïo wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn rhoi'r esboniad, yn dweud, "Mae heddiw'n ddiwrnod wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrïo. Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gyda'r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw'n ddiwrnod wedi ei gysegru i'r Meistr. Peidiwch bod yn drist - bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth i chi!" Yna dyma'r Lefiaid yn tawelu'r bobl, a dweud, "Ust! Stopiwch grïo. Mae heddiw'n ddiwrnod cysegredig." Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw'n llawen - achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw.
(Nehemeia 8:1-11 beibl.net)
Ar ôl hir lafur a llawer gofid, mae muriau Jerwsalem, wedi ei hadnewyddu. Ond, nid digon yw cael diogelwch ac amddiffynfa. Deallodd Nehemeia ac Esra fod ar bobl angen Gair Duw. Felly, mae Esra’n darllen y Gair yn gyhoeddus yng ngwydd pobl y ddinas.
Mae’n Air i BAWB, ac mae’n Air y gellid ei ddeall. A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith Duw; gan osod allan yn synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen (Nehemeia 8:8 WM). Ni ddylem anghofio pwysigrwydd cyfieithu’r Gair i iaith pob cenedl a phob oes, fel y deallent wrth ddarllen. Nid digon cael y Gair mewn ffrâm glasurol lenyddol a choeth, os nad yw’n ddealladwy.
Sylwer fel mae’r bobl yn esbonio’r Gair hefyd. O ran hynny mae darlleniad da a chlir a chyffrous o’r Gair yn gallu bod yn esboniad ynddo’i hun. Fel llawer arall rwyf wedi dioddef oddi wrth ddarlleniadau haearnaidd a diystyr ar dro, ac wedi bod yn euog o hynny fy hun! Rhaid i’r Gair gael ei esbonio yn nhermau’r bobl. Mae gorchymyn Paul yn dal ei rym - Pregetha’r Gair (2 Timotheus 4:2 BCN). Mae’r ddyw elfen yn y gorchymyn yn bwysig.
Pregetha ... Yn sicr fe all y Beibl bregethu ei neges ei hun, ac yn sicr nid oes dim rhaid i’r Ysbryd Glân wrth offeryn dynol, ond fe welir ar batrwm hanes fod Duw’n defnyddio doniau a galluoedd a phersonoliaeth pobl i gyflwyno’i Air yn glir ac effeithiol i’w dydd. Tybed a ydym fel eglwysi mewn perygl o ddibrisio pregethu? Gallwn ddefnyddio sawl cyfrwng arall, a hynny’n effeithiol, ond rwy’n gwbl argyhoeddedig mai trwy ffolineb pregethu, a thrwy bregethu’n ddewr a dealladwy’r hyn sydd yn ffolineb i’r byd, yr enillwn ein cenedl yn ôl at Grist.
Pregetha’r Gair ... Mor hawdd ac eto mor anodd. Haws yw pregethu Dogmâu ac Athrawiaethau. Haws fyth pregethu Diwinyddion. Enfawr y temtasiwn i bregethu’n Hunain. Na ildiwn. Ein gwaith yw pregethu’r Gair.
Yfory: Mae'n Air sy'n dwyn ei ganlyniadau ...
(OLlE)