Dywedir mai pwrpas cofio bob blwyddyn am fomio Hiroshima a Nagasaki ar y 6 a 9 Awst 1945 yw sicrhau na fydd i’r fath beth ddigwydd fyth mwy. Yn eironig ddigon, dyma’r union reswm a roddir dros ddyfeisio rhagor o arfau a bomiau niwclear llawer cryfach, a’u cadw nhw’n barod i’w defnyddio. Ond ‘yn barod’ i beth? Yr ateb yw, ‘yn barod rhag ofn’; rhag ofn na fyddwn yn barod pe deuai ymosodiad niwclear. Dadl ryfedd yw hon: os allwn NI fod yn fwy parod na NHW, bydda’ NHW yn llai parod i ymosod arnom NI; ond gan na fyddwn NI fyth yn siŵr pa mor barod fydda’ NHW, rhaid dal ati, NI a NHW, i gynnal a chadw ein harfau niwclear! Mae NHW a NI yn gwybod nad arfau ataliol yw'r rhain gan mai dim ond un ergyd fyddai angen ... gydag wyth o bennau atomig yn gwasgaru o drwyn bob taflegryn niwclear cyfoes, mae pob un o’r wyth pen yn llawer cryfach na’r ddwy fom a ollyngwyd ar ddinasoedd Siapan.
Y ddadl synnwyr cyffredin yw mai gwastraff ar arian ac adnoddau yw arfau niwclear; onid fyddai’n gallach peth i wario’r holl gyllid i ymladd brwydrau yn erbyn afiechyd, newyn ac angen ledled byd, ac i fynd i’r afael â phroblemau trafnidiaeth, addysg a gofal meddygol yn ein cymunedau lleol? Peth peryglus yw cymharu’r ffordd y defnyddir cyllid, ac fe ellid dweud mai dadl naïf yw honno sy’n mynnu y gellid defnyddio cyllid Trident fel eli i ddoluriau ein cymdeithas. Onid oes yna wahaniaeth rhwng pris a gwerth? Wrth bleidleisio heno, gweddïwn y bydd ein Haelodau Seneddol yn cofio na ddylid eu cymysgu.
(OLlE)