Wele dy waith cyntaf di yw distewi ... Dyma anogaeth Morgan Llwyd (1619–1659) - cyn dweud dim wrth Dduw rhaid ymdawelu i ymwybod â'i agosrwydd. Dyna'n union a wnaethpwyd ar ddechrau ein Hoedfa Foreol: Ymdawelu ac ymdeimlo â gofal cariadlawn Duw, gan geisio cynnal y galarus yn Nice ac Istanbul â’n gweddïau tawel. Dyma hefyd oedd echel sgwrs ein Gweinidog i’r plant. Cyneuwyd cannwyll ganddo - cannwyll gobaith a chariad. Tywalltwyd dŵr du o amgylch y gannwyll - dyma’r pethau cas sy’n digwydd; y drwg a wnawn ac a wneir inni. Gosododd Owain wedyn cwpan wydr dros y gannwyll, ac wrth i’r gannwyll ddiffodd yn raddol sugnwyd y dŵr du o’r plât i’r gwydr. Wrth ein bod ni’n rhoi o’n cariad ac estyn gobaith i eraill, awgrymodd Owain - yn union fel y gannwyll yn rhoi o’i hunan - gellir tynnu'r drwg a’r cas o’r byd. Bu’r Ysgol Sul yn dilyn trywydd tebyg wrth iddynt ymdrin â heddwch a’r angen am gymod, a phendraw’r cyfan: paratoi rhosyn heddwch.
'Rhosod Heddwch' plant yr Ysgol Sul
Leisa oedd yn arwain y defosiwn, a bu ei myfyrdod yn donic enaid i bawb ohonom. Dyma’r myfyrdod yn llawn:
Mae gwyliau’r ysgol yn dechrau dydd Mercher, a wyddoch chi be’? Dwi’n siŵr ei bod hi’n mynd i ddechrau glawio hefyd. Mae hi i weld i mi bod y glaw yn dod bob tro mae penwythnos neu wyliau ysgol. Ond mae Taid yn dweud pan oedd e’n fach, ‘roedd hi’n heulog bob dydd drwy wyliau’r haf! Mae Cymru yn wlad brydferth iawn gyda llawer o goed a chaeau gwyrdd braf. Ond, tasai ddim glaw fuasai’r coed ddim yn gallu tyfu, ac fe fuasai’r caeau yn frown hyll ac yn sych. Felly, mae galw yn gwneud i bethau dyfu, ac mae hynny’n dda. Hefyd, am fod gymaint o law yma, does dim problem gennym ni i gael dŵr i yfed ac i ymolchi. Felly mae’r galw yn beth drwg, ond hefyd yn beth da.
'Rydyn ni yma yng Nghymru yn llawer mwy ffodus na gymaint o bobl eraill yn y byd, sydd yn cael gormod o haul, a dim digon o law. Yn y gweledydd hynny mae hi’n anodd iawn i fyw. Am fod dim glaw, does ddim llawer o bethau yn gallu tyfu, felly dim ond ychydig o fwyd sydd i’r bobl fwyta. Hefyd maen nhw’n gorfod cario dŵr o bell i ffwrdd er mwyn i’r teuluoedd allu cadw’n fwy.
Erbyn meddwl, efallai ei bod hi’n well cael gormod o law na dim digon. Mae’n bwysig ein bod ni’n cofio am bobl sydd yn llai ffodus na ni y tro nesaf y byddwn ni’n cwyno am beidio cael mynd i’r traeth! Mae hefyd angen cofio weithiau mai dim ond drwy hap a damwain yr ydym ni yn Gymry, ac nid yn un o bobl dlawd y byd. Meddyliwch sur buasai hynny!
Gweddïwn
O! Dduw ein Tad, diolchwn i ti am yr haul a’r glaw. Yma yng Nghymru rydym yn ffodus iawn ein bod yn gallu tyfu ein bwyd yn hawdd, ac mae gennym ni ddigon o ddŵr i yfed ac i ymolchi. O! Dduw, helpa ni i gofio am y miliynau o bob sydd yn cael bywyd yn anodd iawn am eu bod yn byw mewn gwledydd poeth sydd yn brin iawn o law ac mae’n anodd iawn iddynt allu byw. Helpa ni hefyd i gofio am deuluoedd a ffrindiau'r bobl sydd wedi eu lladd yn Ffrainc ac yn Nhwrci'r wythnos hon a gweddïwn drostyn nhw i gyd. Amen
Mae cofnod llawn o bregeth y Gweinidog y bore hwn eisoes ar ein gwefan. Adnodau agoriadol (1-12) pennod 3 o Efengyl Marc oedd testun ein sylw. Egyr y bennod (1-6) gan ofyn ai agwedd negyddol ynteu gadarnhaol sy’n weddus i’r Saboth. Mae’n haws inni benderfynu beth i ymatal rhag ei wneud na phenderfynu beth sydd raid gwneud. Yn adnodau 7-12 cawn gip olwg ar dwf gweinidogaeth Iesu, a gwelir sut na fedrid ei chynnwys o fewn sefydliad nac adeilad, mae blas a naws yr awyr agored - y môr a’r mynydd - arni. Yn adnodau 13-19 mae Iesu’n galw’i ddisgyblion: Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef (Marc 3: 13a). Dewiswyd deuddeg i fod gydag ef, ac i gyhoeddi’r Deyrnas mewn gair a gweithred. Mawr ein braint o gael ein galw at Grist, i fod yn gwmni iddo, a derbyn o wefr a her ei gwmnïaeth. Yn ei bregeth olaf ym Minny Street, nes ail-gydio ym mis Medi, ‘roedd Owain yn pwysleisio’r fraint a’r cyfrifoldeb a roddwyd inni yng ngwaith Crist. Cynhaliwn ein gilydd wrth gynnal ein sêl dros Grist a thros ei Deyrnas.
‘Roedd yn dda gennym yn yr Oedfa Hwyrol cael croesawu Gwilym Tudur ac yntau yn dymuno cyflwyno ei hun i’r weinidogaeth Gristnogol. Gofynnir iddo bregethu mewn tair o eglwysi Cyfundeb Dwyrain Morgannwg, a phenodwyd Minny Street yn un o rheini. Cafwyd Oedfa raenus, pregethu didwyll a phregeth werthfawr. Cododd ei destun o lythyr Paul at Eglwys Iesu Grist yn Effesus: Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio. Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu ar ein cyfer o'r dechrau (Effesiaid 2:8-10). Gras yw cariad Duw tuag atom, gwaith Duw trosom, a nerth Duw ynom, a'i ras yn gweithredu er gwaethaf ein hannheilyngdod ni. Nid trwy gyflawni gweithredoedd da a byw bywyd rhinweddol y down i berthynas o gymod â Duw, ond trwy ymateb i'w gariad grasol. O Ymddiried ein bywyd iddo ac ymlynu wrtho y mae profi dylanwad y gras dwyfol yn ein heneidiau.
‘Roeddem fel eglwys yn gwbl gytûn y dylid ei gymeradwyo i’r weinidogaeth Gristnogol. Dymunwn iddo fendith ac arweiniad i’r dyfodol.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am amrywiol fendithion y dydd.
Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf. Y Parchedig Aled Davies (Chwilog) fydd yn cynnal yr Oedfa Foreol. Ni fydd Ysgol Sul. Bydd yr Oedfa Hwyrol o dan ofal y Parchedig Lona Roberts (Caerdydd). Gweddïwn am wenau Duw ar y Sul.