Cwmnïa gydag Iesu
Cwmni da pobl Dduw. Un o hanfodion y bywyd Cristnogol; ... a’n cymdeithas ni ... sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef, Iesu Grist (1 Ioan 1: 3). Er i’r Cristion fod ar ei ben ei hun mewn llawer man, ni chaiff byth fod yn unig: fe ddof ... atoch (Ioan 14:18). ‘Roedd Iesu yn ddibynnol ar gwmni: Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef. (Marc 3: 13a). Arweiniwyd Iesu at hyn gan nifer o ddigwyddiadau. Mynychai Iesu y synagog yn ffyddlon (Marc 3:1a). Cyflawnodd wyrth nad oedd pawb yn hapus yn ei chylch: ... yr oeddent â’u llygaid arno ... er mwyn cael cyhuddiad i’w ddwyn yn ei erbyn (Marc 3:2). Peryglus yw gosod cadw rheol a phenderfyniad o flaen estyn cymorth a gweini ymgeledd i bobl. Nid oedd Iesu am aros i ddadlau ymhellach â’r bobl hyn. Ymadawodd â’r synagog ac aeth ymaith gyda’i ddisgyblion i lan y môr (Marc 3: 7a). "Awn o fan hyn", meddai Iesu; ond fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea ... o Jwdea a Jerwsalem, Idwmea a’r tu hwnt i’r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato ... oherwydd yr oedd wedi iachau llawer (Marc 3: 7b, 8 a 10a). O gamu allan o'r bocs crefyddol, cafodd brawf o hyd a lled y galw am ei weinidogaeth iachusol. Cafodd fraw: Aeth i fyny i’r mynydd ... Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag (Marc 3: 13a). Cwmni bychan o gyfeillion yn cyd-sefyll a chyd-symud; Give me one hundred preachers who fear nothing but sin, and desire nothing but God ... such alone will shake the gates of hell and set up the kingdom of heaven on Earth. (John Wesley, 1703-91)
Deuddeg ... i wynebu’r anghenion. Pa anghenion? yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo ... (Marc 3:1) Os llaw gweithiwr, rhwystrir diwydiant. Llaw artist? Llygrir celfyddyd. Llaw gwyddonydd? Crebachir deall. Llaw cymwynaswr? Atelir daioni. Diwydiant, celfyddyd, gwybodaeth a daioni; dim ond Iesu all ddiogelu’r cyfan. yr oedd wedi iacháu llawer (Marc 3:10a). Mae’r anghenus yn galw am sylw. Amrywia afiechydon, ond yr un yw angen y claf: adferiad iechyd: gwellhad a geir ar glwyfau oes dan law y Gŵr fu ar y groes. (D.R. Griffiths 1915-90; C.Ff. 301). Cynifer oedd a phlâu arnynt (Marc 3:10b) Mae pla yn fygythiad i gymuned gyfan. Mae Iesu yn ddigon i gwrdd â gwaethaf y pla gwaethaf: "nid oes na haint na chlwy’ na chur na chilia dan dy ddwylo pur." (C.Ff. 301). Bu rhaid i Iesu wynebu gwrthwynebau hefyd. Cyfrwystra pobl: a hwy a’i gwyliasant ef (Marc 3:2a). Hen waith ‘isel’ yw cadw llygad ar rywun arall. Gwylir Iesu’n ofalus. Chwilio am ddiffygion: yr oeddent â’u llygaid arno ... er mwyn cael cyhuddiad i’w ddwyn yn ei erbyn (Marc 3:2). Chwalwyd breuddwydion; sarnwyd gobeithion, rhwygwyd eglwysi o ganlyniad i’r math hyn o wylio. Rhag i’r chwalu, sarnu a rhwygo parhau, safwn gyda’n gilydd, gydag Ef. Condemniad pobl: fel y cyhuddent ef (Marc 3:2b). Rhag i’r cyhuddo parhau, safwn gyda’n gilydd, gydag Ef. Creulondeb pobl: ymgynghorasant yn ebrwydd yn ei erbyn ... pa fodd y difethant ef (Marc 3:6). Ym mhob oes ceisia’r drwg difetha’r da. Ym mhob oes metha’r drwg. Mae yna rymoedd dinistriol, yn bersonol, yn gymunedol, yn wleidyddol ac yn economaidd ar waith. Safwn gyda’n gilydd, gydag Ef, i orchfygu.
Galwadau, gwrthwynebau a buddugoliaethau. Buddugoliaethau? Penododd ddeuddeg ... ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu. Mae gennym bregeth i’w chyhoeddi. Y Gair. Nid gosodiadau ond Cred. Nid rhethreg ond Efengyl. Nid dim ond i bregethu; i bregethu, ac i fod ganddynt awdurdod i iachau clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. Awdurdod i iachau! Mae bod gydag Iesu yn rhoi awdurdod i fod yn rhan, ac â rhan, yn y gwaith o adfer gobaith, ennyn ffydd, rhannu cariad a hynny er iachâd ein cymunedau, ein gwlad a’r cenhedloedd. Ein gwaith? i fwrw allan gythreuliaid. Does dim dyfodol i atgasedd nac anobaith, nac i ragfarn: mae’n holl elynion ni yn awr mewn cadwyn gan y Brenin mawr. (John Dafydd, 1727-83; C.Ff. 308)
Diolchwn am gael bod gydag Ef, gyda’n gilydd yn yr anturiaeth fawr o ymrafael â gwylltfilod ein cyfnod. Estyn eli i ddolur, a chyfle i’r Meddyg Da i gyflawni ei waith. Byw a bod y bregeth fwyaf un.