Peth prin bellach yw’r cyfle i drwsio rhywbeth.
Wedi i’r ‘peth’ - beth bynnag y bo - dorri, rhaid ei osod o’r neilltu a phrynu o’r newydd.
Adref, mae gennyf amrywiol bethau â thri pheth yn gyffredin rhyngddynt: toredig ydynt; nid oes gennyf mor gallu na’r offer i’w trwsio, ac yn ola’: dylaswn waredu’r pethau hyn, ond dwi’n gyndyn o wneud hynny.
O! Pe bai fi ond yn byw yn Amsterdam! Yno, yn 2009, agorwyd Repair Café cyntaf oll gan Martine Postma. Cydiodd y syniad, ac erbyn 2013 ‘roedd 150 o Repair Cafes yn yr Iseldiroedd. Eleni, ledled byd mae 1100 ohonynt ar waith. Mae’r syniad yn dlws o syml: gofod, gwirfoddolwr, paned, sgwrs, cymdeithasu a chyfle i ddod â’ch teclyn neu beiriant toredig i gael ei drwsio gan arbenigwyr sydd yn rhoi o’i hamser a’i dawn yn rhad ac am ddim. Ym mhlith y gwirfoddolwyr mae pobl ddi-waith, neu wedi ymddeol. Crëir cymdeithas, a lleihau gwastraff. Ni throir neb i ffwrdd, ac ni wastraffir dim. Os digwydd i’ch teclyn fod y tu hwnt i bob adferiad, cedwir y darnau i hwyluso’r gwaith o adfer a thrwsio rhyw bethau arall. Gwych o syniad ... a thra effeithiol.
Nid oes, am wn i o leiaf, Repair Café yma yng Nghaerdydd (2 Repair Café sydd yng Nghymru: Llandrindod a Threnewydd), ond mae trwch o eglwysi, synagogau a mosgiau. Mi all y canolfannau ffydd hyn fod megis ‘Caffi Trwsio’ ysbrydol, diwylliannol a chymunedol.
Crëwyd ni, gan ein Creawdwr Dduw yn greaduriaid creadigol. Onid yw trwsio yn weithred greadigol? Yn lled ddiogel, gellid awgrymu fod Iesu’n credu mai gweithred greadigol oedd adfer pobl - trwsio person: Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yw wyf wedi dod (Luc 5:31 BCN). Yr wyf fi wedi dod er mwyn i bobl gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder (Ioan 10:10). Crynhoir y cyfan yn gymen gan Paul: ... yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef (Colosiaid 2:10 BCN). Iesu: ynddo, cawn ein trwsio; o’i herwydd ymrown i drwsio cymuned a byd. At y gwaith hwn, mae gennym yr offer angenrheidiol: ffydd, gobaith a chariad.
Rhaid cofio cofio fod y sawl y dymunwn drwsio, llawn mor abl i’n trwsio ni! Onid y ‘dall’ weithiau, a wêl dir nas gŵyr neb amdano? Cawn gan y ‘byddar’ gymorth i glywed, ac mae’r ‘syml’ yn aml iawn yn gwybod am sail sy’n gudd i’r ‘doethion’. Yn wir, wrth hel gwybodaeth am waith y Repair Cafes, daeth yn amlwg mai rhan allweddol o’r ddeinamig yw bod yr hwn/hon a ddaw i mewn i geisio cymorth arbenigol i drwsio’r ffon, weithiau’n medru estyn cymorth arbenigol sydd angen i drwsio’r peiriant torri lawnt! Gall gwrthrych y cymorth fod yn gyfrwng cymorth.
Beth bynnag fo natur ein perthynas neu ddiffyg perthynas â Duw, ni ellir amau fod rhywbeth wedi torri ynom fel pobl; o’r herwydd mae ein cymunedau’n doredig, ein cymdeithas ar chwâl.
Geilw ein cyfnod am ‘Caffis Trwsio’ ysbrydol a chymunedol. Ynddynt a thrwyddynt, gall bobl ffydd weithio a chyd-weithio fel cyfryngau adferiad, undod a chymod: yn ehangu nid cyfyngu; cyfannu nid dadelfennu.
(OLlE)