Rhaid gweddïo ...
Rhaid gweddïo am heddwch …
Wrth gwrs bod rhaid gweddïo am heddwch.
Ond, annigonol yw dim ond gweddïo am heddwch.
Rhaid gweithio amdano; rhaid gweithio tuag ato:
i herio’r rheini sy’n meithrin gwrthdaro;
i ganfod ac amlygu'r gwirionedd, ta waeth os ydyw’n cadarnhau neu’n ysgwyd ein rhagdybiaethau;
i gondemnio anghyfiawnder, pwy bynnag sydd yn dioddef o’i herwydd;
i amddiffyn hawliau dynol - eu hawliau hwy yn ogystal â’n hawliau ni;
I dderbyn mai cynnyrch aberth yw heddwch:
aberth balchder
aberth diogelwch
aberth tir a meddiant.
Mynnwn ymarfer a hybu cyfaddawd a chymod, a chodi pontydd o barch a deall, ymddiriedaeth a chyfeillgarwch ar draws y gagendorau a saif rhyngom â’n gilydd.
(OLlE)