Molwch yr ARGLWYDD,
yr holl genhedloedd;
clodforwch ef, yr holl bobloedd.
Oherwydd ei drugaredd ef tu ag atom ni sydd fawr;
a gwirionedd yr ARGLWYDD a beri yn draywydd.
Molwch yr ARGLWYDD.
(Salm 117 WM)
... gwirionedd yr ARGLWYDD a beri yn dragywydd ...
Mae gwahaniaeth rhwng y gwirioneddau a'r gwirionedd. Perthyn y gwirioneddau i fyd amser, ac y maent yn newid gydag amser. Gall rhywbeth fod yn wir heddiw heb fod yn wir yfory. Er enghraifft, y gosodiad: 'Y ffordd gyflymaf i fynd o Aberdâr i Gaerdydd yw ar gefn ceffyl. 'Roedd y gosodiad hwn yn wir 200 yn ôl, ond nid yw'n wir heddiw.
Fe’n hatgoffir gan Efengyl Ioan fod y Gwirionedd Tragwyddol wedi ymgnawdoli yng Nghrist Iesu: "Er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd. Y mae pawb sy'n perthyn i'r gwirionedd yn gwrando ar fy llais i." (Ioan 18:37 BCN) Nid haniaeth yw'r gwirionedd i'w amgyffred ar lwybr deall, ond Person i'w adnabod ar lwybr addoliad.
Cynorthwya fi, ynghanol y gwirioneddau cyfnewidiol i adnabod y Gwirionedd digyfnewid. Amen.
(OLIE)