Heddiw, yn 1966 etholwyd Gwynfor Evans (1912-2005) yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.
Ystyriwch yn fyfyrgar y geiriau hyn o'i eiddo:
Fe ddeillia fy syniad i am foesoldeb defnyddio trais o'r hyn a ddeallaf fi am fywyd, dysgeidiaeth a marwolaeth Crist. Ond fe'i hategir gan ddadleuon ymarferol sy'n medru sefyll ar eu traed eu hunain. Mewn gweithred ddynol y mae'r cyfrwng a ddefnyddir i raddau helaeth yn penderfynu natur y drefn a geir ar y diwedd - beth bynnag oedd yr amcanion yn y lle cyntaf. Mae'r cyfrwng a'r canlyniad yn ddi-wahan ynghlwm yn ei gilydd ... Mae trais ar raddfa fawr fel mewn rhyfel neu chwyldro yn gostwng gwerth bywyd dynol ... yn gwanhau'r ymlyniad wrth y gwir, yn rhyddhau'r nwydau gwaelaf mewn dyn, yn tynnu sylw oddi wrth yr hyn sy mewn gwirionedd yn y fantol, gan ddwyn i'r brif, yn aml i aros yno, ddynion y mae gweithredu trais yn ailnatur iddynt.
('Cenedlaetholdeb Di-drais'; Cymdeithas y Cymod, 1973)
Gwisg ein gwleidyddion, O! Arglwydd yr arglwyddi, â doethineb, pwyll, gostyngeiddrwydd a chyfiawnder. Plyg eu polisïau a’u cymhellion i wasanaeth Dy Deyrnas. Amen.