Newid. Un o nodweddion ffydd yw newid.
Mae ffydd o’i hanfod yn newid, os ffydd yw’r afon, newid yw’r llif; os ffydd yw’r emyn, newid yw’r dôn.
Llwyddodd Bertolt Brecht (1898-1956) i fynegi hyn o wirionedd mewn stori dair llinell: ‘Wrth gerdded ar hyd y stryd fe welodd Herr K, hen gyfaill nad oedd wedi ei weld ers blynyddoedd. "Wel Herr K!," ebychodd hwnnw, "Sut mae ers llawer dydd? Dy’ch chi ddim wedi newid dim!"’ Mae’r stori’n gorffen â’r frawddeg: ‘Gwelwodd Herr K.’ Dweud mai Brecht, oni bai ein bod ni’n newid dydyn ni ddim wir yn byw. Heb iddi newid, symud, tyfu, datblygu fe dry ffydd fyw yn ffosil. Diddorol, ond marw.
O! Dduw, ein Tad, gweddïwn am ddoethineb meddwl; cryfder ewyllys; ymgysegriad calon i ganiatáu i’n ffydd ynot newid, symud, tyfu, datblygu yn a thrwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
(OLlE)